Pedair yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PedairFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn / eisteddfod

Y grŵp gwerinol Pedair sydd wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

Mae Pedair, sef Gwenan Gibbard, Siân James, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym, yn ennill y wobr am yr albwm Mae 'na Olau.

Mae'r albwm yn cyfuno "alawon traddodiadol a gwreiddiol" a "harmonïau tyner yn cydblethu ag offeryniaeth gynnil".

Roedd naw albwm ar y rhestr fer eleni, gydag artistiaid fel Adwaith, Swnami a Fleur de Lys hefyd wedi eu henwebu.

Cyhoeddwyd enw'r enillwyr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.

Mae'r wobr yn cael ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, a'r nod yw "dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg" yng Nghymru ar hyn o bryd.

Y beirniaid eleni oedd Iwan Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts, Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac Aneirin Jones.

Mae pedwar aelod Pedair wedi cael wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ymddangosodd y bedair ar y cyd yn y cyngerdd agoriadol, Y Curiad, gyda chôr gwerin yr ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf.

Rhestr fer 2023

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  • Adwaith - Bato Mato

  • Sŵnami - Sŵnamii

  • Pedair - Mae 'na Olau

  • Rogue Jones - Dos Bebes

  • Cerys Hafana - Edyf

  • Fleur de Lys - Fory ar ôl Heddiw

  • Kizzy Crawford - Cariad y Tir

  • Dafydd Owain - Uwch Dros y Pysgod

  • Avanc - YN FYW (Live)