Dathlu 20 mlynedd o wylio gweilch yn Nyffryn Glaslyn
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n benwythnos o ddathlu yn Nyffryn Glaslyn wrth iddyn nhw nodi 20 mlynedd o wylio gweilch y pysgod yn yr ardal.
Mae elusen Bywyd Gwyllt Glaslyn yn 10 mlwydd oed hefyd, a bydd Gŵyl y Gweilch yn cael ei chynnal i nodi hynny ym Mhorthmadog.
"Mae ganddon ni stondinau, digon o gacennau, gweithgareddau i blant, ond mae gennym ni hefyd gyfres o sgyrsiau gan arbenigwyr ar weilch, a hefyd ar hanes Glaslyn," meddai Becky Phasey, swyddog addysg canolfan Bywyd Gwyllt Glaslyn.
"Dwi ddim yn meddwl fod y bobl oedd yn gwylio'r adar pan gafon nhw eu gweld yn bridio am y tro cyntaf yn 2004 yn meddwl y byddan ni dal yma'n sefyll fel elusen hyd heddiw.
"Nid yn unig yn gwarchod y gweilch, ond bod 'na weilch eraill hefyd wedi dod i'r dyffryn ac yn bridio'n llwyddiannus.
"Mae hi'n edrych yn addawol iawn a 'da ni'n gobeithio y bydd y boblogaeth yn cynyddu'n raddol o flwyddyn i flwyddyn.
"Mae 'na ddigon o weilch o gwmpas - 'da ni'n gwybod hynny - a gobeithio y byddan nhw'n ffeindio nyth."
Ychwanegodd Ms Phasey ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn fod y ffaith bod yr elusen hefyd yn dathlu degawd yn dangos ymdrechion clodwiw gwirfoddolwyr a phobl leol.
"Yr RSPB oedd yn gyfrifol am warchod y gweilch i ddechrau, ond mi oedd y gymuned leol yn rhan fawr iawn o hynny, ac yn gwirfoddoli i warchod y nyth," meddai.
"Wedyn pan 'naeth yr RSPB benderfynu cymryd cam yn ôl, mi oedd y gymuned yn teimlo'n gryf iawn dros aros a sefydlu elusen newydd i warchod y gweilch.
"Mae'n brosiect sy'n dangos be' sy'n bosib pan mae cymuned yn dod at ei gilydd a gwneud rhywbeth cadarnhaol.
"Dwi'n meddwl ei fod yn achos dathlu ac yn profi i bobl fod prosiectau gwarchod bywyd gwyllt yn gallu gweithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022