Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-2 Queens Park Rangers

  • Cyhoeddwyd
Sinclair ArmstrongFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sinclair Armstrong sgoriodd unig gôl yr hanner cyntaf

Colli oedd hanes Caerdydd ddydd Sadwrn, a hynny yng ngêm gartref gyntaf Aaron Ramsey ers iddo ddychwelyd i'r clwb.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 34 munud, gyda Sinclair Armstrong yn rhwydo o groesiad isel Paul Smith o'r asgell dde.

Eiliadau'n unig wedi i Ramsey daro'r trawst, roedd Caerdydd ymhellach ar ei hôl hi ar ôl 65 munud, gyda Kenneth Paal yn rhwydo i QPR.

Fe darodd yr Adar Gleision yn ôl gydag ychydig dros 10 munud yn weddill gyda gôl gan Ike Ugbo, ond roedd yr ymwelwyr eisoes wedi gwneud digon i sicrhau'r fuddugoliaeth.