Y Bencampwriaeth: West Bromwich Albion 3-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Doedd dwy gôl hwyr ddim yn ddigon i achub Abertawe, wrth iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref yn West Bromwich Albion.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 18 munud, gyda Semi Ajayi yn rhwydo yn dilyn ansicrwydd yn y cwrt cosbi o dafliad Darnell Furlong.
Dyblwyd y fantais ar ddechrau'r ail hanner, gyda golwr yr Elyrch Carl Rushworth yn anlwcus i roi'r bêl i'w rwyd ei hun wedi iddi daro'r trawst.
Aeth West Brom ymhellach ar y blaen wedi 64 munud, wrth i John Swift sgorio o'r smotyn ar ôl trosedd gan Harry Darling ar Conor Townsend yn y cwrt cosbi.
Ond fe wnaeth Darling yn iawn am ei gamgymeriad wrth benio i'r rhwyd o gic gornel Charlie Patino 10 munud yn ddiweddarach.
Gyda 10 munud yn weddill fe sgoriodd Nathan Wood ail i'r Elyrch i'w gwneud hi'n ddiweddglo nerfus i West Brom, ond roedd y tîm cartref eisoes wedi gwneud digon i sicrhau'r fuddugoliaeth.