Adran Dau: AFC Wimbledon 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Wrecsam yn dathlu gôl Elliot Lee yn yr hanner cyntaf

Fe barhaodd ddechrau sigledig Wrecsam i'w hymgyrch yn Adran Dau ddydd Sadwrn gyda gêm gyfartal oddi cartref yn AFC Wimbledon.

Aeth Wrecsam ar y blaen ar ôl 22 munud, gydag ergyd Elliot Lee yn gwyro heibio i'r golwr Alex Bass i'r rhwyd.

Cafodd AFC Wimbledon gyfle euraidd i sgorio o'r smotyn yn yr ail hanner, ond llwyddodd Ben Foster i arbed ergyd Ali Ibrahim Al-Hamadi o 12 llath.

Ond gyda 10 munud yn weddill roedd trosedd arall gan Wrecsam yn y cwrt cosbi, a'r tro hwn fe sgoriodd y tîm cartref o'r smotyn - gyda James Tilley yn ei chymryd y tro hwn - a chyfartal y gorffennodd hi.