'Trywanu' Pwllheli: Cyhuddo dau o glwyfo bwriadol

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Caerdydd, Pwllheli
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yn ymateb i'r digwyddiad fore Iau

Mae dau ddyn lleol wedi cael eu cyhuddo o glwyfo bwriadol yn dilyn digwyddiad ym Mhwllheli ddydd Iau.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Caerdydd Isaf am 08:36 y bore, ble cafodd tri o bobl eu harestio, a pherson arall ei gludo i'r ysbyty.

Roedd y llu wedi gofyn i bobl gadw draw yn dilyn "digwyddiad mewn eiddo domestig", tra bo'r aelod seneddol lleol, Liz Saville Roberts, wedi cyfeirio ato fel "achos o drywanu".

Daeth cadarnhad ddydd Sadwrn fod dau ddyn o Bwllheli - Toby Humphreys, 30, a Neil Brynley Jones, 31 - wedi cael eu cyhuddo o glwyfo bwriadol.

Mae disgwyl iddynt ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug yn ddiweddarach.

Mae'r trydydd dyn a gafodd ei arestio'n wreiddiol wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

Dyw'r heddlu ddim wedi manylu ar gyflwr yr unigolyn a gafodd ei gludo i'r ysbyty.

Pynciau cysylltiedig