Pictiaid yr Alban a’r iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae sawl theori am y Pictiaid, y bobl oedd yn byw lle sydd heddiw yn cael ei alw yn ogledd yr Alban. Ac mae tystiolaeth bod eu hiaith yn rhannu elfennau ym mhell bell yn ôl gyda ein Cymraeg ni heddiw.
Mae Dr Guto Rhys wedi gwneud doethuriaeth ar iaith y Pictiaid ym Mhrifysgol Glasgow ac mae'n rhannu rhai o'i gasgliadau yn yr erthygl hon i Cymru Fyw.
Eglurhad 'Cymraeg' enwau Pictaidd
Aberdeen, Arbroath, Coupar Angus, Strathpeffer, Perth, Yell, Mounth, Pitlochry.
Mae'n debyg bod o leiaf rhai o'r enwau lleoedd hyn yn gyfarwydd i chi, enwau sy'n britho'r Alban. Ond tybed faint ohonoch chi sy'n gwybod bod eglurhad 'Cymraeg' i bob un?
Sôn yr ydw i am iaith y Pictiaid, pobl y teyrnasoedd grymus a ddatblygodd i'r gogledd o'r Brythoniaid yn yr 'Oesoedd Tywyll', hynny yw, ar ôl i rym yr Ymerodraeth Rufeinig edwino ar yr ynys hon.
Pictland yw'r term Saesneg heddiw am yr ardal hon i'r gogledd o Glasgow a Chaeredin.
Mae gennym ddigon o wybodaeth o'r cyfnod (tua 600-900) i wybod mai math o (hen) Hen Gymraeg a siaradai'r Pictiaid.
Mae gennyn ni dystiolaeth llawer o enwau lleoedd, cyfeiriadau at enwau brenhinoedd ac uchelwyr mewn llawysgrifau hynafol, a nifer bychan o eiriau a barhaodd ar ôl i'r Pictiaid ddod i siarad Gaeleg yr Alban, tua'r 10fed ganrif.
Rhaid cofio nad barbariaid ymosodol diddwylliant oedd y Pictiaid (neu'r Prydyn). Roedd iddynt esgobion a mynachlogydd a fyddai'n copīo Beiblau a gweithiau diwinyddol eraill. Mae eu croesau cerfiedig soffistigedig ac enigmatig yn dyst eu bod yn rhan annatod o ddiwylliant Cristnogol y cyfnod.
Aber, mynydd a pherth
Dyma ddetholiad o'r geiriau sydd wedi parhau mewn rhyw ffordd neu ei gilydd. Dechreuwn gydag enwau lleoedd:
Aber: Fel yn y Gymraeg, mae'n golygu'r man lle rhed afon i'r môr, neu i afon fwy. Mae i'w weld yn Aberdeen, hefyd yn Arbroath, ond mae'n haws o lawer i'w weld yn yr hen ffurf, Aberbrothoc.
Pefr: Enw afon fawr yw Peffer (mae Strathpeffer i'r gogledd i Inverness), ac mae'n cyfateb i'n 'pefr' ni, sef 'disglair'. Yn y gogledd byddwn yn dweud bod llygaid yn 'pefrio'.
Perth: Mae 'perth' yn air Cymraeg am goedwig fechan, neu wrych. Dyma yw ystyr y dref Perth, ac a roddodd ei enw i Perth yn Awstralia.
Cymer: Mae Coupar (yn Fife) yn deillio o ryw ffurf fel ein 'cymer' ni, sef man lle llifa dwy afon at ei gilydd. Meddyliwch am Rhyd-y-cymerau, neu abaty Cymer.
Mynydd: Yr enw am yr ardal fynyddig yng nghanol yr Alban yw The Mounth, a ffurf ar 'mynydd' yw hon.
Iâl: Ynys Yell yw un o'r ynysoedd mwyaf gogleddol o'r Shetlands, ac mae'n cyfateb i 'iâl' (Llanarmon-yn-Iâl, a Yale yn yr Unol Daleithiau). Gair yw hwn am dir sy'n ffrwythloni'n hwyr.
Cardden: Beth am Kincardine (mae sawl un)? Mae'r ail elfen 'carden' yn cyfateb i'r gair Cymraeg 'cardden', ac mae'n golygu amddiffynfa o ryw fath, ac mae'n digwydd mewn sawl enw lle yng Nghymru.
Duw: Mae dwy afon o'r enw Dee yn yr Alban, o'r un tarddiad â Dee yn Lloegr. Yr hen ffurf Geltaidd oedd 'dēwā', a rhoddodd hwn 'dwyw' mewn hen Gymraeg (fel dwywol > dwyfol) a Dyfrdwy. Erbyn heddiw yr ynganiad yw 'duw', ac mae'n cyfeirio at afon sanctaidd.
Pant: Gwelir hwn yn Panmure (Pant Mawr), a Panbride (Pant Brigit - y santes).
Bryn: Digwydd hwn yn Camron 'camfryn' (mae'n debyg), a Burnturk (Bryn-twrch), lle mae'r ail elfen yn golygu 'baedd gwyllt'.
Pen: Pennan - pentref bychan gardd ger penrhyn sylweddol, sy'n dyst i'r gair 'pen'.
Y Llychlynwyr a'r Gwyddelod
Mae'n debyg i ymosodiadau'r Llychlynwyr yn y nawfed ganrif wanhau grym y Pictiaid, a oedd eisoes mewn cyswllt agos â'r Gwyddelod (neu'r 'Gaeliaid' a ymestynai o Argyll i dde Iwerddon).
Trwy rhyw brosesau sy'n dywyll i ni, y nhw a lwyddodd i gymryd grym yng ngweddillion teyrnas y Pictiaid. Mae'n debyg bod cryn dipyn o'u haith eisoes yn gyffredin ymysg yr eglwyswyr a'r uchelwyr ac yn uchel ei bri yno.
Ond wrth i bobl newid iaith a mabwysiadu Gaeleg parhaodd ambell air, ac fe'u defnyddiwyd i lunio enwau lleoedd, ond fe'u collwyd o'r iaith.
Cae: Dyma sydd i'w weld mewn enwau fel Cargill, Carpow a Keir.
Coed: Mae'n bur debyg mai dyma sydd i'w weld yn y lliaws o enwau fel Keith.
Peth: Y ffurf Bicteg fyddai 'pet' ac mae'n golygu 'rhaniad o dir' (o ryw fath). Meddyliwch amdanon ni Gymry yn dweud 'Wyt ti eisiau peth?'. Mae dros 300 o enghreifftiau, mewn enwau fel Pitlochry.
Dail: Daw hwn o'r ffurf Bicteg sy'n cyfateb i'n 'dôl' ni, sef cae gwair, yn aml ger afon. Digwydd hwn mewn enwau fel Dull a Dallas.
Preas: Gair arall am lwyn bach yw hwn, ac mae'n cyfateb i 'prys'.
Bad: Mae'n debyg eich bod yn gyfarwydd â 'bod' fel gair arall am 'annedd', mewn enwau lleoedd fel Bodedern, a Boduan. Yn yr Aeleg mae'n golygu llecyn, tameidyn o dyfiant.
Pòr: Gair am 'hadau, cnwd'. Mae hwn yn cyfateb i fôn y gair 'pori'.
Monadh: 'Tir uchel', sef ein mynydd ni.
Enwau brenhinoedd
O ran enwau personol mae gennym enwau fel Mailcon (Maelgwn), Taran, Uuen (Owain), ac Unust (Unwst) ymysg y brenhinoedd.
Er i'r Pictiaid droi at yr Aeleg, parhaodd rhai enwau personol. Un enghraifft yw Morgainn a geir yn Llyfr Deer, y llyfr hynaf yn yr Alban gyda'r iaith 'Gaeleg' wedi ei hysgrifennu ynddi, a'r nodiadau hyn yn dyddio o'r 12fed ganrif.
Wrth i rym Rhufain ildio i rym mân frenhinoedd y Brythoniaid a'r Saeson tua'r bumed a'r chweched ganrif fe wnaeth llawer o'r 'Rhufeiniaid' hyn ddod i siarad y dafodiaith Gelteg leol.
Mae'r Frythoneg yn drwm dan ddylanwad Lladin Llafar Hwyr (rhywbeth tebyg i Sbaeneg neu Eidaleg).
Oherwydd na fu'r Pictiaid yn rhan sefydlog o'r Ymerodraeth Rufeinig mae'n ymddangos bod llai o ddylanwad yr iaith honno ar eu hiaith nhw - felly rhyw fath o chwaeriaith i'r Frythoneg oedd mae'n debyg.
A beth am y Bicteg goll heddiw?
Ar wahan i enwau lleoedd ac ysgrifen mewn hen lawysgrifau beth sydd ar ôl? Wel, y geiriau 'benthyg' yng Ngaeleg yr Alban.
Holwch siaradwr brodorol beth yw preas a pòr a dail a monadh ac fe glywch lefaru un o chwaerieithoedd y Gymraeg.
Hefyd o ddiddordeb: