Rhwyfwyr yn hel dros £50,000 i elusen hunanladdiad

  • Cyhoeddwyd
Y criw ar un o'r cychod rhwyfoFfynhonnell y llun, Row4Gaz
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd y criw nôl yng Nghaergybi amser cinio ddydd Mercher - 29 awr yn unig wedi iddyn nhw gychwyn

Mae criw a rwyfodd 130 milltir o Gaergybi i Ddulyn ac yn ôl bellach wedi casglu dros £50,000 i elusen ar ôl cwblhau'r daith mewn 29 awr.

Bwriad criw Row4Gaz oedd cwblhau'r her er cof am Gareth Parry Owen, a fu farw drwy hunanladdiad fis Hydref y llynedd yn 38 oed.

Roedden nhw wedi gosod targed o £20,000 ond maen nhw bellach wedi pasio £50,000 wrth i'r arian barhau i lifo.

Bydd yr arian yn mynd i Sefydliad DPJ, elusen gafodd ei sefydlu i bobl yn y sector amaeth er cof am Daniel Picton-Jones, contractiwr amaethyddol o Sir Benfro.

'Mae'n deimlad anhygoel'

Wedi i'r criw o 20 gychwyn o Glwb Hwylio Caergybi fore Mawrth, y gobaith oedd cwblhau'r daith o fewn 36 awr.

Ond wrth gyrraedd nôl yn yr harbwr amser cinio ddydd Mercher, fe lwyddon nhw i groesi Môr Iwerddon mewn 29 awr yn unig.

Disgrifiad,

Tudur Owen, brawd Gareth, yn trafod yr her cyn iddyn nhw gychwyn fore Mawrth

Yn ôl John Pritchard, a helpodd i drefnu'r daith, mae'r gefnogaeth wedi bod yn "anhygoel".

"'Da ni dal yn buzzio i fod yn onest," meddai wrth Cymru Fyw.

"Roedd 'na dros 100 o bobl yn rhan o'r trefnu mewn ryw ffordd neu'r llall, mae wedi bod yn ymdrech anhygoel.

"Mae wedi cymryd tua 8-9 mis o drefnu ond mae'n deimlad anhygoel i fod wedi cwblhau'r daith.

Ffynhonnell y llun, Row4Gaz

"Mae'n destament i Gaz i fod yn onest, ac yn dangos pa mor boblogaidd oedd o."

Ar un adeg roedd y criw wedi cael trafferth sicrhau ffenestr addas i gychwyn y daith oherwydd gwasgedd isel uwchben Môr Iwerddon.

Ond wedi iddyn nhw dargedu dydd Mawrth fel eu diwrnod cychwyn, roedd mwyafrif y daith yn ffafriol.

Ffynhonnell y llun, Row4Gaz
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r rhwyfwyr ar ôl cyrraedd Dulyn, sef y man hanner ffordd

Fe ychwanegodd, "Y pedair neu bump awr gyntaf oedd yr anoddaf, doedd yr amgylchiadau ddim y gorau, ond roedd y môr yn hollol llonydd ar gyfer y trip yn ôl i Gymru.

"Fe gawson ein chwythu i'r gogledd ar y ffordd allan, ond fe wellodd hi wedyn ac roeddan ni'n ffodus i gael rhai cefnogwyr a ffrindiau yna i'n croesawu yn Nulyn - wnaeth hynny helpu lot.

"Roedd hi'n hollol fflat ar y ffordd nôl ac roedd y môr yn brydferth. Wnaeth pawb eu job i'r dim a mae 'na edrych ymlaen i'r sialens nesa'!"

'Wedi ein hysbrydoli'

Fe ddywedodd rheolwr elusen Sefydliad DPJ, Kate Miles: "Mae'r daith rwyfo wedi codi dros £51,000 i Sefydliad y DPJ, sy'n swm rhyfeddol a fydd yn ein galluogi ni i gefnogi rhai yn y sector amaethyddol sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth bellach.

Disgrifiad o’r llun,

Kate Miles: 'Rydym y tu hwnt o ddiolchgar ac wedi ein hysbrydoli gan y tîm sydd wedi cyflawni cymaint'

"Mae tîm Row4Gaz wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i rai yn y sector amaethyddol a all helpu i atal hunanladdiad.

"Fe wnaethon nhw ymuno â ni yn Sioe Amaethyddol Môn gyda'u peiriant rhwyfo, a cymerodd llawer o bobl ifanc, a hŷn, ran yn yr her i geisio curo'r amseroedd a osodwyd gan y rhwyfwyr cyflymaf ar gwch Row4Gaz.

"Dechreuodd hyn sgyrsiau am iechyd meddwl a lles, a hefyd am hunanladdiad.

"Rydym y tu hwnt o ddiolchgar ac wedi ein hysbrydoli gan y tîm sydd wedi cyflawni cymaint.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gyda Gareth hefyd yn dod o gefndir amaethyddol, roedd y criw yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth am waith Sefydliad DPJ

"Gobeithiwn eu bod wedi helpu i ddangos nad oes angen i neb ddioddef ar eu pen eu hunain gyda'u hiechyd meddwl a dim bwys pa mor wael neu isel yr ydych yn teimlo, mae yna wastad rhywun fydd yn gwrando.

"Diolch i bob un aelod o dîm Row4Gaz ac i bawb sydd wedi eu cefnogi nhw, trwy roddion, nawdd a thrwy rannu eu taith anhygoel a'u calonogi."

Pynciau cysylltiedig