Rhwyfo o Fôn i Ddulyn er cof am ffrind fu farw
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori isod beri pryder.
"Mae 'na lot o bobl yn stryglo, a dal i frifo, ac oedd dod at ein gilydd i wneud rhywbeth positif a bod yn gymorth i'n gilydd yn bwysig."
Fore Mawrth fe gychwynnodd criw o ffrindiau ar her o rwyfo 130 milltir dros Fôr Iwerddon er cof am gyfaill agos fu farw'r llynedd.
Yn 38 oed, fe gymerodd Gareth Parry Owen ei fywyd ei hun fis Hydref 2022.
Gyda Gareth wedi ei fagu ger y Fali yn agos i arfordir Môn, roedd yn caru'r môr, felly bwriad criw Row4Gaz yw coffáu ei fywyd drwy rwyfo o Gaergybi i Ddulyn ac yn ôl.
Er bod y rhan fwyaf o'r criw o 20 yn hollol newydd i'r gamp, maent yn gobeithio cwblhau'r her o fewn llai na 48 awr ac eisoes wedi codi £40,000 i elusen Sefydliad DPJ.
"Roedd Gareth yn foi poblogaidd iawn, roedd yn gymeriad lliwgar," meddai ei frawd, Tudur Owen, wrth Cymru Fyw.
"Sa'n gallu cerdded mewn i unrhyw 'stafell a sa'n 'nabod rhywun neu goleuo unrhyw stafell."
'Wrth ei fodd ar y môr'
Ychwanegodd: "Roedd wrth ei fodd ar y môr ac hefo network anferth o ffrindiau a phobl roedd o'n nabod.
"Wedi gweithio ar draws y wlad hefyd, hwylio ar draws y wlad, roedd ganddo ffrindiau ymhob cornel o'r byd, mae 'na lot fawr o bobl yn ei fethu."
"'Sa ti wedi gofyn i Gareth, y dŵr neu'r môr oedd his happy place, dyna oedd yn ei alw," dywedodd Tudur Owen.
"Roedd yn treulio oriau ar y mor yn hwylio, kitesurfio neu wakeboardio ar y Fenai, oedd o wrth ei fodd ar y môr."
Fore Mawrth wnaeth y tîm o 20 o rwyfwyr ddechrau ar y daith o Glwb Hwylio Caergybi.
Byddan nhw'n rhwyfo fesul pedwar ar y tro, gyda phedwar cwch atodol i'w cynorthwyo.
"Ar ôl colli Gareth mi wnaeth John Pritchard gael y syniad o greu rhywbeth i ddathlu natur anturus Gareth a dod â phobl at ei gilydd oedd yn stryglo," ychwanegodd Tudur.
"Mae 'na lot o bobl yn dal i frifo, ac oedd dod at ein gilydd i wneud rhywbeth positif a bod yn gymorth i'n gilydd yn bwysig.
"Dyna lle ddoth y syniad o Row4Gaz at ei gilydd."
'Fyddan ni'n rhwyfo trwy un nos o leia'
Hyd yn oed cyn cychwyn mae'n nhw eisoes wedi casglu £40,000.
"'Dan ni'n bwriadu rhwyfo o Glwb Rhwyfo Caergybi i Ddulyn ac yn ôl," ychwanegodd Tudur.
"Yn 130 o filltiroedd môr, mae'n siŵr fod o am gymryd 30 i 40 awr. Fyddan ni'n rhwyfo trwy un nos o leia', sy'n sialens yn ei hun, cadw gymaint o bobl yn saff dros bedwar gwahanol long a cwch rhwyfo.
"Does na fawr ddim o'r tîm wedi rhwyfo cyn mis Ionawr 'leni. 'Dan ni wedi cael lot o help gan glwb rhwyfo Ynys Môn ym Mhorth Llechog."
"Magnet o foi...tynnu pawb at ei gilydd. Person fel 'na oedd Gaz," meddai Robat Evans, ei gefnder ac un o'i ffrindiau gorau wrth Cymru Fyw.
"Oedd Gareth yn hapus, roeddat yn cael hwyl hefo fo o hyd. Never a dull moment.
"Pan wnaethon nhw ofyn i mi gynta' i rwyfo i Iwerddon, wnes i feddwl 'dydy rhwyfo ddim yn bad', ond ar ôl bod yn y cwch am y tro cynta' fis Ionawr.... 'ok, mae 'na waith cael yn barod am hwn'!
"Dwi heb wneud dim fel hyn o'r blaen, ond oeddan ni isho rwbath i gynrychioli ei bersonoliaeth o."
Fe ychwanegodd John Pritchard, ffrind ysgol i Gareth o Bontrhydybont ger Bae Trearddur, eu bod wedi cael trafferth oherwydd y tywydd anffafriol.
"Mae 'na ddipyn o waith trefnu, gyda rhai o'r criw yn byw yng Nghaerdydd ac eraill yn Sir Caer, yn ogystal â rhai yn lleol," meddai.
"Wnaethon ni ddechrau hyfforddi fis Rhagfyr, mae'n sialens wahanol ond dyna beth roeddan ni 'isio.
"'Dan ni'n falch iawn o Gaz ac oeddan ni isho gwneud rhywbeth oedd yn dangos allan, rhywbeth fasa'n anodd ond hefyd dod a grŵp o'i ffrindiau at ei gilydd.
"Mae 'na lot o bobl wedi helpu allan, 'dan ni wedi synnu faint o arian sydd wedi ei hel ond mae'n dangos beth roedd pobl yn feddwl o Gaz ac mae wedi helpu ni hefyd.
"Mae'r tywydd wedi bod yn ofnadwy ond 'dan ni wedi bod yn chwilio am ffenestr lle oedd y tywydd yn addas."
'Jyst siarada hefo rhywun'
Bydd yr arian sy'n cael ei gasglu yn mynd i Sefydliad DPJ, elusen gafodd ei sefydlu i bobl yn y sector amaeth er cof am Daniel Picton-Jones, contractiwr amaethyddol o Sir Benfro.
Gyda Gareth hefyd yn dod o gefndir amaethyddol, mae ei frawd yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth o'u gwaith.
Bydd hefyd modd dilyn eu taith ar stondin yr elusen yn Sioe Môn, sy'n rhedeg ddydd Mawrth a ddydd Mercher.
"Y peth pwysicaf, os da chi'n teimlo'n isel, ydy eich bod chi'n ymestyn allan i rhywun," meddai Tudur.
"Does dim rhaid iddo fod yn rhywun 'dach chi'n 'nabod, mae 'na elusennau sy'n cefnogi pobl sy'n stryglo gyda'u hiechyd meddwl.
"Dwi 'di bod trwy rhywfaint o iselder fy hun, a'r peth pwysicaf ydi cofio mae pethau am wella.
"Pan mae pethau'n wael jyst cofio fod pethau a wella."
Ychwanegodd Robat: "Jyst siarada hefo rhywun, dio'm ots pwy ydy o.
"Gad i rhywun wybod yn union sut ti'n teimlo a ella wnei di deimlo'n well... dy fod di ddim yn dal y baich 'na i gyd i fewn yn chdi dy hun."
"Da ni isho pobl wybod fod y DPJ yna i bobl sydd ddim yn teimlo'n iawn... mae 'na gymorth yna os ti 'isio fo.
"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn unbelievable, mae faint mae pobl wedi rhoi yn dangos faint o effaith oedd o'n gael.
"Mae'r pres am wneud gwahaniaeth de. Yn ei enw o fydd y gwahaniaeth yn cael ei wneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022