Plaid Cymru: Dafydd Elis-Thomas yn gwneud cais i ailymuno

  • Cyhoeddwyd
DET
Disgrifiad o’r llun,

Mewn cyfweliad â Newyddion ITV Cymru, fe ddywedodd y cyn-aelod Senedd ei fod yn ei ystyried fel "dychwelyd adref".

Mae cyn-lywydd y Senedd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi gwneud cais i ailymuno â Phlaid Cymru bron i saith mlynedd ar ôl gadael y blaid.

Fe adawodd yr Arglwydd Elis-Thomas Blaid Cymru yn 2016 gan gyhuddo'r blaid o "fod yn anfodlon i chwarae rôl mwy cadarnhaol gyda Llywodraeth Lafur Cymru".

Ond mewn cyfweliad ag ITV Cymru mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi dweud ei fod yn "bryd dychwelyd adref", ac mai "newid mewn cyfeiriad gwleidyddiaeth Plaid Cymru" sydd i gyfri.

Wrth ymateb i gais am sylw gan BBC Cymru fe wnaeth Plaid Cymru gadarnhau fod yr Arglwydd Elis-Thomas wedi gwneud cais i ailymaelodi ond nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto.

'Cyfeiriad gwahanol'

Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas adael Plaid Cymru ym mis Hydref 2016 - bum mis wedi etholiadau'r Cynulliad.

Yn Nhachwedd 2017 fe'i penodwyd yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yng nghabinet Llafur Carwyn Jones.

Ffynhonnell y llun, Lyn Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd Elis-Thomas yn annerch cynhadledd flynyddol Plaid Cymru, 17 Medi 2005

"Mi wnes i adael Plaid Cymru oherwydd fy mod i yn anghytuno efo'r agwedd roedd Plaid Cymru yn ei gymryd tuag at bleidiau eraill yn y Cynulliad," meddai ar y pryd.

Ond mewn cyfweliad â Newyddion ITV Cymru, fe ddywedodd y gwleidydd 76 oed ei fod yn ystyried ailymuno fel "dychwelyd adref".

Aeth ymlaen i ganmol "cyfeiriad gwahanol" y blaid o dan yr arweinydd newydd, Rhun ap Iorwerth.

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Gallwn gadarnhau fod Dafydd Elis-Thomas wedi gwneud cais i ailymuno â Phlaid Cymru.

"Bydd ei gais yn cael ei ystyried."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas eu hethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 1974

Roedd Dafydd Elis-Thomas yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd - Meirionnydd Nant Conwy yn ddiweddarach - rhwng 1974 a 1992, pan ddaeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.

Bu hefyd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 a 1991, gan eistedd fel Aelod Cynulliad - ac yna Aelod o'r Senedd - rhwng 1999 a 2021.

Ef oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad, gan wasanaethu tan 2011.

Pynciau cysylltiedig