Heddlu'r Met: Cyhuddo dau o Gymru dros negeseuon hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn o Gymru ymysg chwech o gyn-aelodau Heddlu'r Met sydd wedi'u cyhuddo o anfon negeseuon hiliol ar Whatsapp, yn dilyn ymchwiliad gan y BBC.
Doedden nhw ddim yn gweithio i'r llu pan mae'n cael ei honni iddyn nhw anfon negeseuon hiliol mewn grŵp Whatsapp.
Ymhlith y chwe swyddog, mae Peter Booth, 66 o Landeilo, a Trevor Lewton, 65 o Abertawe.
Mae yna bedwar cyhuddiad o anfon negeseuon ddifrifol hiliol drwy gyfathrebiad cyhoeddus yn erbyn Mr Booth, ac un yn erbyn Mr Lewton.
"Mae'r cyhuddiadau'n dilyn ymchwiliad gan Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol y Met a gafodd ei lansio yn dilyn sylw gan BBC Newsnight ym mis Hydref y llynedd," dywedodd y llu mewn datganiad.
Mae'r cyn-swyddogion wedi'u cyhuddo o dan y Ddeddf Gyfathrebu 2003, ac fe fyddan nhw'n ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar 7 Medi.
Dwsinau o negeseuon
Fe ddaeth dwsinau o negeseuon o grŵp Whatsapp i law rhaglen BBC Newsnight y llynedd.
Dydy'r BBC ddim wedi cyhoeddi'r negeseuon am fod rhai yn cynnwys iaith hiliol.
Roedd rhai yn cyfeirio at bolisi Rwanda Llywodraeth y DU, tra bod eraill yn gwneud jôcs am lifogydd diweddar Pacistan lle bu farw bron i 1,700 o bobl.
Roedd sawl llun yn cynnwys Dug a Duges Sussex, ynghyd ag iaith hiliol.
Roedd y chwe chyn-swyddog yn gweithio mewn gwahanol rannau o'r llu, ond fe wnaeth pob un dreulio amser yng Ngrŵp Amddiffyn Diplomyddol Heddlu'r Met.
Fe ddywedodd James Harman o'r llu ei fod yn falch o weld y cyhuddiadau, a bod y mwyafrif o swyddogion y Met yn cefnogi'r gwaith i ymchwilio i'r negeseuon yn llwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023