Adran Dau: Wrecsam 4-2 Walsall

  • Cyhoeddwyd
Will Boyle (chwith) yn dathlu sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Will Boyle (chwith) yn dathlu sgorio ei gôl gyntaf dros Wrecsam ers ymuno â'r clwb o Huddersfield

Mae Wrecsam wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Adran Dau ers eu dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol - eu cyntaf hefyd ar y lefel yma ers 2008.

4-2 oedd y sgôr terfynol ar y Cae Ras nos Fawrth wedi gêm gyffrous yn erbyn Walsall.

Fe rwydodd William Boyle (8 munud) ac Ollie Palmer (20) i roi'r tîm cartref ar y blaen, cyn i Chris Hussey (24) daro'n ôl i gau'r bwlch rhwng y ddwy ochr.

Yn yr ail hanner fe sgoriodd Jake Bickerstaffe (56) ac Elliot Lee (85) i ymestyn y fantais, ac roedd yn ymddangos taw 4-1 fyddai'r canlyniad nes i Anthony Forde (90+1) roi'r bêl yn ei rwyd ei hun.

Ond fe fydd Wrecsam yn falch o'r fuddugoliaeth wedi iddyn nhw golli eu gêm agoriadol yn erbyn Milton Keynes Dons ar y Cae Ras, cyn sicrhau eu pwynt cyntaf yn eu cynghrair newydd gyda gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Wimbledon.