Ffos-y-Fran: 'Trychineb amgylcheddol' ar safle glofa

  • Cyhoeddwyd
Ffos-y-FranFfynhonnell y llun, Matt Cardy/Getty Images

Daeth rhybudd y gallai cau safle glo brig mwyaf y DU droi'n "drychineb amgylcheddol" oni bai bod y safle'n cael ei adfer yn unol â'r cynllun gwreiddiol.

Mae perchnogion glofa Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful wedi cyhoeddi y bydd yn cau ar 30 Tachwedd.

Fe ddaeth caniatâd cynllunio ar gyfer safle glo brig mwya'r DU i ben fis Medi'r llynedd, ond hyd yma mae'r gwaith wedi parhau yno.

Bydd y mwyafrif o'r gweithlu o 115 yn cael eu diswyddo, sydd wedi arwain at bryderon na fydd y safle'n cael ei dirlunio i fod yn safle gwyrdd i'r gymuned.

Mae'r perchnogion - Merthyr (South Wales) Ltd - wedi gwrthod rhoi sylw pellach ar hyn o bryd, ond mae'r undeb sy'n gweithio gyda nhw wedi dweud wrth BBC Cymru bod opsiynau i adfer y safle'n cael eu hystyried.

Dywedodd undeb Unite eu bod yn siomedig fod y safle'n cau, ond bod staff yn bwriadu aros gyda'r cwmni tan bydd y safle wedi cael ei ddiogelu.

Gwrthod trwydded

Mae hanes y lofa yn ddadleuol gan iddi gael ei chaniatáu mor agos at gartrefi a busnesau ym Merthyr Tudful gyda'r addewid y byddai'r tir yn cael ei adfer.

Cafodd dros 11m tunnell o lo ei gynhyrchu yno ers i'r lofa agor yn 2008.

Daeth trwydded y safle i ben ym mis Medi 2022 ac fe gafodd cais i ymestyn y drwydded ei wrthod gan yr awdurdod lleol ym mis Ebrill eleni.

Er hynny'n mae'r cwmni wedi parhau i gloddio, gan wylltio ymgyrchwyr amgylcheddol.

Roedd y cwmni'n dadlau mai un achos i barhau oedd nad oedd digon o arian wedi'i glustnodi i adfer y tir yn ôl y cytundeb gwreiddiol.

Rhybuddiodd Val Williams, hanesydd lleol sy'n byw ger y safle: "Daeth addewid y byddai'r safle'n cael ei adfer i fod yn well nag yr oedd.

"Fedrai ddim gweld hynny'n gallu digwydd nawr. Mae pobl wedi colli eu swyddi ac mae gennym drychineb amgylcheddol yn cael ei adael yno."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y caniatâd cynllunio ar safle Ffos-y-Fran i ben ym Medi 2022

'Dyletswydd cyfreithiol'

Ond dywedodd Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, bod gan y cwmni "ddyletswydd cyfreithiol i adfer y safle fel ei fod yn ddiogel i'r gymuned leol".

"Roedden ni'n disgwyl i'r gweithwyr barhau i weithio yno am ddwy neu dair blynedd arall, felly mae'n siomedig iawn os yw eu cytundebau wedi eu dileu ar fyr rybudd fel hyn.

"Ry'n ni angen i Lywodraeth Cymru a Chyngor Merthyr drafod gyda'r cwmni beth yw eu cynlluniau i'r gweithwyr, a beth yw eu cynlluniau i adfer y safle."

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd, bod "rhaid i'r gymuned, sydd wedi byw gyda'r lofa yma ers blynyddoedd, gael yr hyn gafodd ei addo".

Pryder Janet Finch Saunders AS o'r Ceidwadwyr oedd y byddai cau busnesau fel Ffos-y-Fran yn gorfodi busnesau fel gwaith dur Port Talbot i ddibynnu ar fewnforio glo.

"Rhaid i Llafur a Phlaid Cymru gydnabod ei fod yn anghyfrifol i ddilyn polisïau sy'n dadlwytho ôl-troed carbon ar wledydd eraill sy'n dlotach na ni," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda'r undeb i sicrhau pecyn cymorth i gefnogi gweithwyr sy'n cael eu diswyddo, ond mai "mater i drafod rhwng y cwmni a'r cyngor yn y lle cyntaf" yw adfer y safle.

Gwrthododd Cyngor Merthyr Tudful wneud sylw.