Ffos-y-Fran: Ymgyrchwyr yn cymryd camau cyfreithiol
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr newid hinsawdd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru a Chyngor Merthyr wrth i'r ffrae ynglŷn â glofa Ffos-y-Fran barhau.
Daeth caniatâd cynllunio ar gyfer safle glo brig mwya'r DU i ben fis Medi'r llynedd ond mae'r perchnogion wedi dal ati i balu.
Bellach mae ymgyrchwyr yn bwriadu herio penderfyniadau swyddogion y cyngor a gweinidogion y llywodraeth wrth iddyn nhw ystyried sut i ymyrryd.
Mae'r cyngor a'r llywodraeth wedi cael cais am sylw.
Mae ffigyrau diweddar yn dangos i dros 300,000 o dunelli o lo gael eu cynhyrchu ar safle Ffos-y-Fran yn ystod bron i flwyddyn ers i'r caniatâd cynllunio ddod i ben.
Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y safle, Merthyr (South Wales) Ltd, yn y broses o apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi gan yr awdurdod lleol - hysbysiad a gafodd ei gyflwyno ddechrau mis Mehefin.
Ers hynny maen nhw wedi derbyn hysbysiad arall gan Awdurdod Glo'r Deyrnas Unedig, ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod 'na gloddio'n digwydd y tu hwnt i'r ardal lle rhoddwyd caniatâd i weithredu yn wreiddiol.
Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod gan Gyngor Merthyr a Llywodraeth Cymru y grymoedd i fynd ymhellach a chyflwyno'r hyn sy'n cael ei alw'n hysbysiad stop - a fyddai'n gorchymyn y cwmni i ddod a'r gwaith i ben.
Nos Fercher fe wnaeth cyfreithwyr ar ran y grwpiau Coal Action Network a Good Law Project gyflwyno cais am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys.
Maen nhw'n dadlau nad yw swyddogion y cyngor na gweinidogion y llywodraeth wedi gweithredu yn ddigon cyflym wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i ymateb i ymddygiad y lofa.
'Bradychu' trigolion
Dywedodd Daniel Therkelsen o Coal Action Network fod y cyngor wedi "bradychu" trigolion lleol, a bod Llywodraeth Cymru'n "ystyfnig" am "wrthod camu i mewn a gweithredu ar ei pholisïau newid hinsawdd".
Yn ôl Rheolwr Cyfreithiol Good Law, Jennine Walker, mae'n "anodd credu" bod y cwmni wedi medru parhau i loddio "yng ngolau dydd, am dros 11 mis" heb ganiatâd cynllunio.
Mae cais am sylw wedi ei roi i Merthyr (South Wales) Ltd - yn y gorffennol mae nhw wedi dweud nad yw'n addas iddyn nhw ymateb tra bod eu hymdrech i apelio yn erbyn yr hysbysiad gorfodi yn mynd rhagddi.
Yn sgil y broses gyfreithiol doedd Cyngor Bwrdeistref Merthyr ddim am ymateb a dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd hi'n briodol iddyn nhw ymateb ar hyn o bryd rhag iddynt amharu ar unrhyw benderfyniad fydd yn cael ei wneud gan weinidogion ar y mater yn y dyfodol .
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023