Teyrngedau i'r ysgolhaig a'r cyn-lyfrgellydd Athro Brynley Roberts

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Brynley RobertsFfynhonnell y llun, Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae'r ysgolhaig a'r cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, Yr Athro Brynley F. Roberts wedi marw yn 92 oed.

Yn arbenigwr ar hanes Celtaidd a'r Gymraeg, bu'n Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 1978-1985, cyn dod yn Llyfrgellydd ar y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth am bron i ddegawd rhwng 1985-1994.

Bu'n awdur a golygydd ar sawl cyfrol ar ffigyrau hanesyddol o bwys a fe oedd un o'r awdurdodau pennaf ar y naturiaethwr Edward Lhwyd.

Roedd hefyd yn awdurdod ar lenyddiaeth ganoloesol Gymreig, gan gynnwys 'Brut Y Brenhinedd'.

Mewn teyrnged i'r Athro Roberts dywedodd Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, Pedr ap Llwyd: "Bu'n bennaeth caredig iawn i'w staff, ac yn arweinydd ysbrydoledig a chraff yn ystod cyfnod o doriadau llym i gyllid y sefydliad.

"Roedd yn ŵr arbennig iawn a byddwn yn gweld ei golli'n fawr."

Dywedodd Yr Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe, eu bod hwythau'n teimlo "tristwch" o glywed am ei farwolaeth.

"Cyfoethogodd Bryn, fel yr hoffai gael ei adnabod, ein dealltwriaeth o lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg a'n gwerthfawrogiad o waith Edward Lhwyd," meddai.

"Gŵr hynaws, parod iawn ei gymwynas, a'n cefnogodd yma yn Abertawe i'r carn. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â Rhiannon, ei wraig, ei feibion a'r teulu ehangach."

'Un o gewri astudiaethau Celtaidd'

Wedi'i fagu yn Aberdâr, roedd tad Brynley Roberts yn argraffydd proffesiynol, ac fe wnaeth hynny gyfrannu at ddiddordeb Yr Athro Roberts yn hanes argraffu Cymreig cynnar yr ardal.

Yn un o olygyddion Y Bywgraffiadur Cymreig, bu'n aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, yn ogystal â bod rhan flaenllaw yng ngweithgareddau Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Dywedodd Yr Athro Helen Fulton, is-lywydd y Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru, fod Brynley Roberts "yn un o gewri astudiaethau Celtaidd yn ail hanner yr 20fed Ganrif".

"Fe gofir amdano fel awdur toreithiog a golygydd craff," meddai. "Yr oedd yn gyfaill i lawer yn y maes ac yn barod bob amser i estyn cymorth i ysgolheigion ifainc.

"Roedd yn aelod cynnar o'r Gymdeithas Ddysgedig ac fe deimlwn ei golli."

Mewn teyrnged iddo dywedodd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ei fod yn "un o gymwynaswyr mawr" y sefydliad, ble bu hefyd yn un o'i Gymrodyr Hŷn.

"Cofiwn ei gyfraniad disglair i ysgolheictod Cymru a'i gefnogaeth i ymchwilwyr o sawl cenhedlaeth," meddai.

"Cydymdeimlwn yn fawr gyda'i wraig Rhiannon, a'i blant Rolant a Maredudd."

Ychwanegodd cyn-Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones: "Mae'n drist nodi marwolaeth yr Athro Brynley F Roberts ar ôl cystudd hir.

"Roedd Bryn yn ysgolhaig o fri, yn gyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, ac yn flaenor ac athro ysgol Sul mawr ei barch yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. Meddwl yn arbennig am Rhiannon, ac am Rolant a Maredudd."