Cyhuddo plismon o wyrdroi cwrs cyfiawnder
- Cyhoeddwyd
Mae plismon gyda Heddlu De Cymru wedi ymddangos mewn llys ar gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r Cwnstabl Paul Higgins, 41 oed o Hengoed, Caerffili, hefyd yn wynebu tri chyhuddiad o ddefnyddio systemau cyfrifiadurol yr heddlu heb awdurdod, ac un cyhuddiad o gamddefnyddio pwerau'r heddlu.
Manylion y cyhuddiadau yw ei fod wedi bwriadu defnyddio rhaglen neu ddata ar gyfrifiadur yn Aberdâr heb awdurdod rhwng 29 Awst a 21 Medi 2020.
Fe'i cyhuddir hefyd o "gamddefnyddio pwerau a breintiau cwnstabl" drwy ymgymryd â pherthynas rhywiol gyda menyw y gwnaeth ei chyfarfod pan oedd hi'n ddioddefwraig trosedd.
Fe honnir hefyd i PC Higgins gyflawni cyfres o weithredoedd gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus yn Aberdâr rhwng 1 Ebrill 2021 a 12 Rhagfyr 2022.
Mae'r cyhuddiadau yn honni iddo ddweud anwiredd wrth gydweithwyr, goruchwylwyr ac ymchwilwyr o Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu am sut y dechreuodd ei berthynas gyda'r fenyw.
Dywedwyd fod PC Higgins wedi "ei hannog i roi'r un stori" i ymchwilwyr.
Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd fore Iau, fe wnaeth PC Higgins gadarnhau ei enw, dyddiad geni a chyfeiriad ond ni wnaeth gyflwyno ei ble i'r pum cyhuddiad yn ei erbyn.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r Barnwr David Wester anfon yr achos i Lys y Goron lle bydd y gwrandawiad cyntaf ar 14 Medi.
Dechreuodd ymchwiliad SAYH wedi i Heddlu De Cymru gysylltu gyda nhw am ei ymddygiad ym Mai 2021.
Dywedodd Heddlu'r De fod PC Higgins yn dal wedi ei wahardd o'i swydd.