Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad pedwar cerbyd

  • Cyhoeddwyd
A44 ger LlandeglauFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr A44 ger Llandeglau ynghau am dros 13 awr ddydd Iau wedi'r digwyddiad

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr A44 ym Mhowys fore Iau.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ger Llandeglau tua 10:30 ddydd Iau, ac fe gafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Yn ôl y llu, roedd pedwar cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad - beic modur BMW du a melyn, campervan Mazda porffor, Ford Fiesta arian, a pickup Mitsubishi arian.

Roedd y ffordd ynghau tan 23:50 nos Lun tra bo'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig