Annog pobl ifanc i ddysgu am ddiogelwch wrth deithio

  • Cyhoeddwyd
Jordan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan Davies, sy'n DJ rhyngwladol, yn annog pobl ifanc i ddysgu sut i deithio'n ddiogel

Wrth i filoedd o fyfyrwyr a phobl ifanc ddathlu eu canlyniadau, mae cyn aelod o'r rhaglen ITV Magaluf Weekender yn annog pobl i ddysgu sut mae mwynhau dramor yn ddiogel. 

Bellach yn DJ rhyngwladol, sydd hefyd yn ffermio geifr yn Sir Fynwy yn ei amser rhydd, bu Jordan Davies, 31, yn gweithio yn ardaloedd fel Magaluf ac Ibiza am 10 mlynedd.

"Pan ddechreuais i roedd y llefydd yna yn hollol wahanol," meddai.

"Roedd gwyliau bryd hynny yn ymwneud â meddwi mor wirion ag y gallwch ond nawr gyda'r cyfryngau cymdeithasol mae popeth wedi newid ac mae pobl ifanc yn llawer mwy cyfrifol."

'Meddwl eich bod yn anorchfygol'

Roedd Georgia Hague, 28, o Wrecsam, yn 23 oed pan symudodd i Magaluf, yn Sbaen, i weithio.

O fewn wythnosau i ddechrau ei swydd haf collodd ei ffrind Natalie Cormack, 19, pan syrthiodd o seithfed llawr bloc o fflatiau.

Dywedodd Georgia ei bod wedi gweld nifer "o ddigwyddiadau a llawer o farwolaethau ifanc y gellir eu hosgoi."

Ffynhonnell y llun, Georgia Hague
Disgrifiad o’r llun,

Mae Georgia Hague yn gweithio ar ymgyrch 'Stick With Your Mates' i annog pobl i aros gyda'u ffrindiau tra ar wyliau, wedi marwolaeth ei ffrind

"Mae yna feddylfryd mor wahanol pan rydych chi ar eich gwyliau," meddai Georgia.

"Rydych chi'n teimlo eich bod chi'n anorchfygol pan rydych chi'n ifanc ac yn cael hwyl.

"Daeth ei holl bywyd i ben."

Gadawodd Georgia Sbaen ar ôl dwy flynedd a hanner ac ers hynny mae wedi gweithio gyda'r Swyddfa Gartref ar yr ymgyrch 'Stick With Your Mates', gan annog pobl ifanc i fod yn ddiogel dramor.

"Fy mhrif neges bob amser yw cadw gyda'ch gilydd," meddai.

"Rydych chi'n crwydro i ffwrdd cyn gynted ag y byddwch ar eich pen eich hun. 

"Rydych chi mor agored i niwed, a byddwch yn gwneud penderfyniadau na fyddech chi'n eu gwneud o fewn grŵp."

Dywedodd ei bod yn credu y gall teithio newid bywydau pobl ifanc am resymau da gan ychwanegu nad yw am i "atgofion hudol gael eu dinistrio" gan drasiedi a cholled.

Teithio heb rieni am y tro cyntaf

I Katie Anderson, 18 oed, a'i ffrindiau o Gaerdydd, roedd trip wedi eu harholiadau safon uwch i dref Malia, yng Ngroeg, yn gyfle i ddathlu.

Er y cyffro, "oedd 'na lot o ansicrwydd" meddai Katie "oherwydd bod llawer o ni heb deithio heb rieni o'r blaen."

Ffynhonnell y llun, Katie Anderson
Disgrifiad o’r llun,

"O'n i'n teimlo'n eithaf saff yn mynd i ffwrdd oherwydd o'dd 'na lot o bobl oedran ni," meddai Katie Anderson

Cyn i'r criw adael Cymru, roedd eu hysgol wedi cynnig cymorth a chyngor ynglŷn â chadw'n ddiogel wrth deithio am y tro cyntaf gyda ffrindiau. 

"Fi'n credu o'dd e'n eitha' da bod grŵp mawr o ni," meddai Katie

"O'n i'n teimlo'n eithaf saff yn mynd i ffwrdd oherwydd o'dd 'na lot o bobl oedran ni." 

Cyngor Katie wedi ei phrofiad o fod dramor am y tro cyntaf gyda ffrindiau ydy cadw eich eiddo pwysig gyda chi ar bobl achlysur a sicrhau eich bod chi'n aros gyda ffrindiau. 

"O'dd un ffrind wedi cael pob dim 'di dwyn," meddai. 

Er profiad ei ffrind, mae Katie yn teimlo'n gryf bod modd teithio'n ddiogel a mwynhau. 

"Mae e'n gyfle i joio a chi'n dysgu gymaint," dywedodd.

Cymuned o bobl

Un sydd wedi cael profiadau helaeth o deithio ydy Sophie Williams, 30 oed, o'r Felinheli. Dywedodd: "Munud ti'n dal y bug, mae'n amhosib."  

Wedi chwe mis yn gweithio yn Ibiza, fe benderfynodd Sophie deithio ymhellach, gyda'u hanturiaethau yn ymestyn i Wlad Tai, Awstralia a'r Eidal. 

Ffynhonnell y llun, Sophie Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sophie Williams ei bod yn mwynhau cwrdd ag unigolion eraill wrth deithio

"Ti'n dysgu lot am ti dy hun," meddai Sophie. 

"Mae'n bwysig os ti ddim yn teimlo fel bo' chdi'n saff, jyst tyrd o 'na."

I Katie, mae cryfder a diogelwch i'w ddarganfod yn y gymuned o bobl eraill sy'n teithio - yn enwedig os yw rhywun ar ei ben ei hun dramor.

"Mae o mor bwysig gyfarfod â phobl sy'n gwneud yr un fath â chdi," meddai Sophie.  

Pynciau cysylltiedig