Patagonia: 'Siom' dau gwmni am ganslo teithiau yr hydref
- Cyhoeddwyd
Mae dau gwmni o Gymru wedi mynegi eu "siom" am orfod canslo teithiau i'r Wladfa eleni oherwydd diffyg archebion.
Dywedodd Dafydd Owen o gwmni Crwydro mai dyma'r daith gyntaf iddo orfod canslo i unman yn y byd ers dechrau trefnu yn 2008.
Dywedodd Teithiau Elfyn Thomas ei fod yn "siomedig gorfod ffonio cwsmeriaid i ganslo".
Nid yw taith flynyddol yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru, sy'n galluogi 25 o Gymry ifanc i ymweld â Phatagonia, wedi ei chynnal ers 2019, ac ni fydd taith eto eleni.
Ond mae cwmni newydd Teithiau Patagonia, o Aberystwyth, yn mynd ag 14 o Gymru yno ym mis Hydref.
Codi arian
Tua'r un pryd - i gyd-fynd ag Eisteddfod y Wladfa - bydd 35 o ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon yn ymweld gyda'u hathrawes, yr artist Sioned Glyn.
Bydd mab Sioned, Elidyr Glyn o'r band gwerin Bwncath, hefyd ar y daith honno a bydd ef a disgyblion Ysgol Syr Hugh Owen ac ysgolion y Wladfa yn cynnal cyngherddau i godi arian i'r ysgolion Cymraeg lleol.
Mae'r Parchedig Eirian Wyn Lewis hefyd yn arwain 25 o bobl o Sir Benfro ar daith ym mis Hydref.
Ac ym mis Tachwedd bydd criw o bobl ifanc o Goleg Merthyr Tudful yn mynd draw i'r Andes i wirfoddoli yn Ysgol y Cwm.
Dywedodd Dafydd Owen, perchennog Crwydro, iddo "golli miloedd o bunnau ar ôl gwario ar hysbysebion teledu, a llawer o amser a phres wedi mynd ar drefnu, paratoi taflenni ac ati".
Y daith a fwriadwyd ar gyfer 4-17 Hydref fyddai wedi bod y 10fed iddo drefnu i Batagonia - yn costio £6,500 y pen yn cynnwys yr holl hediadau, llety a thrafnidiaeth a thywyswyr.
Roedd y daith ddiwethaf yno gan gwmni Crwydro yn 2019, ac ar gyfartaledd meddai Mr Owen, roedd rhwng 20 a 30 ar bob taith, gyda chynifer ag 80 un flwyddyn.
Ond dim ond wyth neu naw oedd wedi bwriadu teithio y tro hwn.
Mae Crwydro yn trefnu teithiau dros y byd - gan gynnwys Canada, China a Gwlad yr Ia - "ond dyma'r daith gyntaf i mi ganslo, dyna pam ei bod yn gymaint o siom", esboniodd Dafydd Owen.
"Dwi wrth fy modd yn mynd i Batagonia, yn edrych ymlaen bob amser at fynd yno," meddai.
Dywedodd bod canslo teithiau "yn siŵr o gael effaith ar y Gymraeg yno".
"Mae cael pobl o Gymru yno yn rhoi sbardun i ddigwyddiadau Cymraeg ac yn rhoi hwb i westai, tai te ac economi'r Gaiman, Trevelin ac Esquel."
'Siomedig'
Roedd Teithiau Elfyn Thomas wedi bwriadu bod ym Mhatagonia am bron dair wythnos ym mis Hydref a Thachwedd, ond mae'r cwmni wedi canslo oherwydd diffyg archebion.
Dywedodd Mr Thomas ei fod wedi trefnu wyth neu naw taith i'r Wladfa ers y 1990au "ac wedi cael bron i ddeugain yn teithio bob amser".
Y tro hwn, meddai, roedd yn "siomedig gorfod ffonio cwsmeriaid i ganslo, ac hefyd colli busnes".
"Roedd 12 wedi mynegi diddordeb pendant i fynd ond roedd angen o leiaf 20," esboniodd.
"Cyn y pandemig roedd tua 200 wedi holi, a heb y pandemig dwi'n disgwyl y buasem ni wedi mynd â tua 50."
Eglurodd Mr Thomas fod costau hedfan wedi cynyddu, "a chostau byw pawb wedi cynyddu".
"A gyda chwyddiant mor uchel yn yr Ariannin mae'n anodd cael gwestai i roi pris," meddai. "Dydy hynny ddim yn hawdd, mae'n rhaid rhoi buffer yn y pris."
Chwyddiant
Cododd cyfradd chwyddiant yr Ariannin - wrth gymharu cyfnod o 12 mis - heibio 100% yn gynharach eleni am y tro cyntaf ers dros 30 mlynedd.
Mae hynny'n golygu bod prisiau llawer o nwyddau wedi dyblu mewn dim ond blwyddyn.
Roedd pris y daith a fwriadwyd gan gwmni Teithiau Elfyn Thomas yn £6,500 am 20 diwrnod.
"Efallai ein bod ni ddim wedi hysbysebu digon, neu wedi hysbysebu yn y lle anghywir.
"Mae 'na bobl allan yno efo pres a phobl sydd eisiau mynd i Batagonia."
Fe wnaeth Mr Thomas wedyn argymell i'w gwsmeriaid gafodd eu siomi i gysylltu â chwmni newydd Teithiau Patagonia, sy'n cael ei redeg gan Angeles ac Aled Rees.
Dywedodd Angeles bod eu cwmni blaenorol, Teithiau Tango, wedi dod i ben oherwydd effaith Covid-19.
"Roeddem mewn sefyllfa wirioneddol wael, heb unrhyw archebion am dair blynedd," meddai am y penderfyniad i ddirwyn y cwmni blaenorol i ben.
"Roedd yn anodd ac yn drist iawn, roeddwn i yn teimlo'n isel, oherwydd roedd gennym berthynas mor dda ag ysgolion a phobl ym Mhatagonia."
'Y cyntaf o lawer'
Ond ychwanegodd eu bod yn gobeithio mai'r daith ym mis Hydref gyda chwmni newydd Teithiau Patagonia - gyda'r 14 o deithwyr yn talu £5,195 yr un am yr 16 diwrnod - "fydd y cyntaf o lawer".
"Rydyn ni wrth ein bodd yn mynd â phobl i Batagonia, i ddangos i bobl pa mor anhygoel ydyw," meddai.
Dywedodd un o drigolion y Wladfa, Gwion Elis-Williams, sydd ar bwyllgor llywodraethwyr Ysgol y Cwm, Trevelin: "Mae'n amlwg yn siomedig iawn bod y ddwy daith wedi cael eu canslo.
"Mae hi wastad yn braf cael croesawu criwiau o Gymru i Ysgol y Cwm.
"Mae'r disgyblion yn magu llawer o hyder wrth dywys ymwelwyr o Gymru o gwmpas yr ysgol a Chapel Bethel."
'Hwb mawr i'r gymuned Gymraeg'
Ychwanegodd bod ymweliadau o Gymru hefyd yn hwb mawr i'r gymuned Gymraeg yn gyffredinol, gan fod nosweithiau cymdeithasol fel arfer yn cael eu trefnu sy'n rhoi cyfle i bobl gymysgu a chymdeithasu.
"Mae dau ddiwylliant gwahanol yn dod at ei gilydd dros un iaith," meddai.
"Mae'r eisteddfodau hefyd yn amser pwysig o ran croesawu ymwelwyr o Gymru, ac yn gyfle arbennig i bobl y Wladfa ddangos eu doniau i'r byd!
"Felly'r neges ydi ein bod ni wastad yn barod i ymestyn croeso cynnes i'n ffrindiau o Gymru."
Roedd Gwion Elis-Williams yn un o drefnwyr taith ar gyfer wyth o bobl o Gymru adeg y Pasg eleni, gyda'r elw yn mynd tuag at yr ymgyrch i sefydlu ysgol uwchradd yn Nhrevelin.
Dywedodd y bu'r daith yn "llwyddiant ysgubol", ac fe godwyd "swm sylweddol o arian" tuag at yr ymgyrch.
Oherwydd hynny, mae'n trefnu ail daith i'r Wladfa ar gyfer mis Tachwedd eleni, eto ar gyfer hyd at wyth o bobl.
"Mi fydd hi'n wanwyn yma yn y Wladfa, a bydd y lle ar ei orau," meddai.
"Bydd y daith yn cynnwys cyfle i fwynhau dathliadau pen-blwydd darganfod Cwm Hyfryd yn 1885 - bydd parêd mawr ar y diwrnod, gyda phawb ar gefn eu ceffylau, a'r plant i gyd yn gorymdeithio yn eu lliwiau ysgol.
"Hynny ar ben popeth arall sydd gan y Wladfa i'w chynnig!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd23 Awst 2021
- Cyhoeddwyd8 Awst 2022