Rygbi: Cyfle olaf i chwarewyr am le yng Nghwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Cai EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cai Evans yn ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn De Affrica

Mae yna gydbwysedd anodd yn wynebu Warren Gatland ar drothwy gêm baratoadol olaf Cymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.

Ar un llaw, dyma fydd ei gyfle olaf i weld rhai chwaraewyr cyn dewis ei garfan derfynol i fynd i Gwpan y Byd ym mis Medi.

Ar y llaw arall, mae ceisio osgoi mwy o anafiadau yn erbyn tîm caled a safonol yn sicr o fod yn flaenoriaeth.

Mae Gatland eisoes wedi gwneud tri newid o'r tîm gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher, gyda Liam Williams, Dan Biggar ac Alex Cuthbert yn tynnu nôl o'r 15.

Bydd Cai Evans (mab cyn-asgellwr Cymru Ieuan) yn ennill ei gap cyntaf fel cefnwr yn lle Williams, Sam Costelow yn camu i safle'r maswr yn lle Biggar a Tom Rogers yn llenwi'r bwlch ar yr asgell yn lle Cuthbert.

Y newyddion da i Gatland yw ei fod yn disgwyl y bydd Dewi Lake, Taine Plumtree, Ryan Elias a Dafydd Jenkins i gyd wedi gwella o'u hanafiadau nhw mewn pryd i gêm agoriadol Cymru yn erbyn Fiji yn Bordeaux ar 10 Medi.

Mae'r un peth yn wir am Gareth Anscombe a Taulupe Faletau - yr unig ddau i beidio bod yn rhan o'r un o gemau paratoadol.

Ond pwy fydd y chwaraewyr anlwcus i beidio cyrraedd y garfan derfynol?

Fe fyddwn ni'n gwybod o fewn 48 awr i ddiwedd y gêm yn erbyn De Affrica.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac Morgan yn ffefryn i arwain Cymru yng Nghwpan y Byd wedi cyfnod llwyddiannus yn arwain y tîm dan-20

Pwy fydd yn gapten?

Gyda blaenasgellwr y Gweilch, Jac Morgan yn arwain Cymru mewn dwy o'r gemau paratoadol, mae'n ymddangos mai ef yw'r ffefryn i arwain y tîm yng Nghwpan y Byd.

Disgrifiad,

Bu'r capten Jac Morgan yn ateb cwestiynau cyflym Chwaraeon BBC Cymru cyn gêm baratoadol olaf Cymru cyn Cwpan Rygbi'r Byd

Mae rhywun yn cofio nôl i gyfnod cyntaf Gatland gyda Chymru pan benododd e Sam Warburton yn gapten 22 oed i Gwpan y Byd 2011.

Mae Morgan yn 23, ac yn chwaraewr tebyg o ran cymeriad - perfformiwr penigamp sy'n ennyn parch ei gyd-chwaraewyr a hyfforddwyr fel ei gilydd.

Yn ei ail gyfnod wrth y llyw, mae Gatland eisoes wedi wynebu heriau.

Fe ddechreuodd saith mis yn ôl gyda thrafferthion ariannol ac ansicrwydd o ran cytundebau chwaraewyr, gyda streic gan y garfan bron a tharfu ar bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond mae cyfnod o dri mis gyda'r garfan ehangach, gan gynnwys gwersylloedd ymarfer yn y Swistir a Thwrci, wedi gwneud byd o les. Mae'r awyrgylch yn teimlo'n fwy iach.

Aeth Cymru i rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd ddwywaith yng nghyfnod cyntaf Gatland.

Er bod hynny'n ymddangos yn bell iawn ychydig fisoedd yn ôl, mae yna rywfaint o obaith bellach na fydd y tîm yn gadael y gystadleuaeth dan gwmwl fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfle arall i'r maswr Sam Costelow i serennu yn erbyn De Affrica

Wedi plesio

Wrth gwrs fe fydd siom i'r rhai sydd ddim yn cael eu dewis i fynd i Ffrainc, ond mae Gatland eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer ymgyrch Cymru yn y gystadleuaeth yn 2027 yn Awstralia.

Roedd y garfan ymarfer o 48 yn cynnwys 10 chwaraewr heb gap, a dyw e ddim wedi bod ofn rhoi cyfle iddyn nhw.

Mae'r canolwyr Max Llewellyn a Joe Roberts a'r prop Corey Domachowski ymhlith y rhai sydd wedi plesio llawer, ac mae datblygiad eraill fel y maswr Sam Costelow, Mason Grady yn y canol a'r clo Dafydd Jenkins wedi cyffroi.

Bydd gan olwyr Cymru fydd yn dechrau yn erbyn De Affrica ond 37 o gapiau rhyngddyn nhw, ac mae 17 o'r rheini'n perthyn i'r mewnwr Kieran Hardy.

Gyda chapten De Affrica Siya Kolisi yn dychwelyd i'r tîm yng Nghaerdydd wedi anaf tymor hir, fe fydd y gêm yn sialens wirioneddol ddydd Sadwrn.

Ond beth bynnag fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, mae'r dyfodol i dîm Cymru yn edrych yn llawer gwell nag yr oedd ar ddechrau 2023.