Noson gymysg i glybiau Cymru yng Nghwpan Carabao

  • Cyhoeddwyd
Rubin ColwillFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Robin Colwill oedd sgoriwr gôl agoriadol Caerdydd

Llwyddodd Caerdydd i gyrraedd trydedd rownd Cwpan Carabao yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Birmingham, ond colli oedd tynged y tri chlwb arall o Gymru sy'n cystadlu ym mhrif gynghreiriau Lloegr.

Er i Abertawe lwyddo i ddod yn ôl i 2-2 gartref yn erbyn Bournemouth o'r Uwch Gynghrair, roedd gôl hwyr Ryan Christie wedi 91 munud yn ddigon i sicrhau lle'r ymwelwyr yn y rownd nesaf.

Roedd cic gosb gan Matt Grimes wedi rhoi'r Elyrch ar y blaen cyn i chwaraewr Cymru, David Brooks, a Hamed Junior Traoré ddod â Bournemouth 'nôl fewn iddi.

Ond roedd gwell newydd i'r tîm o'r brifddinas gan i goliau Rubin Colwill, Ryan Wintle a Kion Etete fod yn ddigon i Gaerdydd drechu Birmingham o 3-1 yn St Andrew's.

Roedd hi'n ymdrech gref gan Gasnewydd wrth iddynt groesawu tîm arall o'r Uwch Gynghrair, sef Brentford, i Rodney Parade.

Torrwyd calonau'r Alltudion gan gôl Mathias Jensen wedi 87 munud, ond fe ddaeth gôl wedi 96 munud i Kiban Rai â thîm Graham Coughlan yn gyfartal.

Ond Brentford aeth â hi ar giciau o'r smotyn er gwaethaf ymdrechion y tîm o Adran Dau.

Ar y Cae Ras, 1-1 oedd hi wedi 90 munud wrth i Wrecsam groesawu Bradford, gyda Will Boyle yn unioni'r sgôr wedi i Tyler Smith rwydo cic o'r smotyn cynnar i'r ymwelwyr.

Ond wedi iddi fynd i giciau o'r smotyn, Bradford aeth â hi o 4-3 wrth i'r rheolwr Mark Hughes adael ei ardal enedigol gyda'r fuddugoliaeth.

Pynciau cysylltiedig