Y gweinidog a'r ymgyrchydd, Emlyn Richards, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Parchedig Emlyn RichardsFfynhonnell y llun, Rhys Llwyd

Mae'r gweinidog a'r ymgyrchydd blaenllaw, Emlyn Richards, wedi marw yn 92 oed.

Yn enedigol o Sarn Mellteyrn yn Llŷn fe ymgartrefodd yng Nghemaes, Sir Fôn.

Roedd yn awdur toreithiog ac yn ymgyrchydd gwrth niwclear amlwg.

Yn un o wyth o blant, roedd yn frawd i'r baledwr, y diweddar Harry Richards.

'Wedi gadael marc'

Wrth roi teyrnged iddo, fe gafodd ei ddisgrifio gan ei ffrind, Dylan Morgan, fel un "sydd wedi gadael marc mawr ar fywyd Môn".

"Tua 1988/89 dyma ni'n gweithio yn agos iawn gyda'n gilydd yn ymgyrch gynta mudiad PAWB pan oedd y Llywodraeth [y DU] am sefydlu adweithydd dŵr dan bwysau newydd yn Wylfa a methiant fu hynny wrth gwrs."

Yn ogystal â bod yn ymgyrchydd gwrth niwclear amlwg, roedd Emlyn Richards yn awdur llyfrau poblogaidd iawn fel Potsiars Môn, Porthmyn Môn a llawer eraill yn ymwneud â'r bywyd gwledig ym Môn a Llŷn.

Mae Dylan Morgan, a arferai gadw Siop Lyfrau Cymraeg Cwpwrdd Cornel yn Llangefni, yn disgrifio nosweithiau lansio llyfrau Emlyn Richiards yn safle mart Morgan Evans fel rhai "bythgofiadwy" a bod y gynulleidfa "yng nghledr ei law".

Wedi ei fagu yn Mhen Llŷn yn un o deulu mawr, aeth Emlyn Richards i weithio ar fferm i ddechrau a wedyn i'r weinidogaeth.

Aeth Dylan Morgan yn ei flaen i ddweud: "Mae'r ffaith iddo weinidogaethu am dros ddeugain mlynedd yng Nghemaes yn dweud llawer am lwyddiant ei weinidogaeth yna ond wrth gwrs oedd Llŷn yn bwysig iawn iddo fo.

"Roedd iaith gadarn, naturiol Llŷn yn amlwg iawn trwy bob un o'i lyfrau ac wrth gwrs mi oedd o'n parhau i berfformio yng nghwmni Harry ei frawd… oeddan nhw'n gwneud nosweithiau gyda'i gilydd oedd yn boblogaidd iawn wrth gwrs.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan eisteddfod

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan eisteddfod

"Mae'n rhaid dweud bu Emlyn yn fyw iawn ei feddwl a'i gof reit tan y diwedd.

"Dwi'n siwr bod digwyddiadau'r flwyddyn dwetha 'ma gyda'r rhyfel yn Wcráin yn ei boeni'n fawr ac o'n i'n cadw cysylltiad agos iawn gyda fo gyda'r holl ymgyrchu sydd wedi bod yn erbyn cael adweithyddion niwclear yn Wylfa.

"Fel person oedd o'n agored iawn ac yn hwyliog, yn llawn hiwmor. Ond oedd 'na feddwl craff iawn hefyd."

'Argraff ddofn ar ei fro ac ar Gymru'

Fe rannodd Aelod o'r Senedd Ynys Môn ac arweinydd Plaid Cymru, deyrnged hefyd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai "efo thristwch mawr" y clywodd am farwolaeth y Parchedig Emlyn Richards.

"Roedd yn ddyn arbennig iawn. Cyffyrddodd â bywydau cymaint o bobl Môn a thu hwnt, yn barod iawn gyda chyngor doeth neu eiriau o gysur.

"Digwydd bod mae un o'i gyfrolau, Yr Ardal Wyllt wrth fy ngwely ar hyn o bryd.

"Drwy ei ddawn geiriau ar lafar ac yn ysgifenedig gadawodd argraff ddofn ar ei fro ac ar Gymru."