Cymru'n colli'n drwm yn erbyn De Affrica cyn Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Cymru mewn gêm hynod siomedig yn erbyn De Affrica cyn Cwpan y Byd ddydd Sadwrn.
Daeth dechrau digon heriol i'r Crysau Cochion gyda chais i'r ymwelwyr wedi pedair munud yn unig.
Methu'r trosgais wnaeth y Springboks ac fe ddaeth cic gosb lwyddiannus i Gymru funudau'n ddiweddarach.
Er i Dde Affrica gael dau gyfle am gic gosb o fewn yr ugain munud cyntaf, aeth yr ymdrechion yn ofer, ac fe darodd Sam Costelow yn ôl drwy lwyddo gyda thriphwynt arall i Gymru.
Ond funudau'n ddiweddarach, fe ddaeth cais arall i'r ymwelwyr gan Canan Moodie a llwyddon i sicrhau'r trosgais hefyd.
Daeth cic gosb arall a dyma Costelow'n sicrhau triphwynt arall wrth geisio cau'r bwlch ar y sgorfwrdd.
Ond yn fuan wedyn fe aeth pethau o ddrwg i waeth gyda dau gais o fewn munudau i'r gwrthwynebwyr.
Daeth un fel cais gosb gyda cherdyn melyn i Rio Dyer a'r llall wedyn i Damian de Allende.
Ar yr hanner, roedd hi'n 24-9 i Dde Affrica.
Gyda rhai newidiadau i'r tîm gan Warren Gatland ar gyfer yr ail hanner, doedd dim am newid momentwm De Affrica.
Cais gan Jesse Kriel wedi 50 munud a wedyn un arall gan Pieter-Steff do Toit wrth i'r gêm fynd ar chwal.
Daeth ceisiau gan Canan Moodie a Damian Willemse wedyn - cyn i Willemese gael cerdyn melyn.
Yn y cyfamser fe ddaeth cais i Gymru gyda Sam Parry yn llwyddo i groesi'r llinell wrth geisio dal gafael yn y gêm.
Ond colli'n drwm o 16-52 oedd hanes Cymru ac mae Warren Gatland yn wynebu talcen caled wrth gyhoeddi ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd ddydd Llun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2023
- Cyhoeddwyd12 Awst 2023
- Cyhoeddwyd5 Awst 2023