Y Bencampwriaeth: Caerlŷr 2-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd yn erbyn CaerlyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe gollodd Caerdydd oddi cartref yng Nghaerlŷr ddydd Sadwrn.

Ond fe blesiodd gôl Aaron Ramsey gefnogwyr yr Adar Gleision cyn yr ail hanner.

Fe daniodd hynny'r tîm yn ystod yr ail hanner, ond fe wnaeth y tîm cartref ddal eu gafael yn y gêm gyda gôl arall i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Colled greulon arall i Gaerdydd felly wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r brifddinas.