Adran dau: Forest Green Rovers 0-3 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Will Evans yn dathlu ei ail golFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Gyda 13 eiliad yn unig ar y cloc, fe ddaeth Will Evans i osod Casnewydd ar y blaen yn erbyn Forest Green Rovers.

Felly y bu hi weddill y gêm gydag ail gol i Evans ac Adam Lewis wnaeth rwydo'r drydedd gôl.

Yn brynhawn siomedig i'r Rovers, bydd Casnewydd yn dychwelyd i Gymru'n falch iawn.

Maen nhw'n y deuddegfed safle yn y bencampwriaeth.