Teulu William Gladstone i ymddiheuro am gyswllt caethwasiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae teulu'r prif weinidog o Oes Fictoria, William Gladstone, yn bwriadu teithio i'r Caribî i ymddiheuro am gysylltiad hanesyddol eu cyndeidiau â chaethwasiaeth.
Roedd William yn fab i John Gladstone oedd yn un o berchnogion caethweision mwyaf y cyfnod.
Mae cartef hanesyddol y teulu ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint.
Dywedodd Charlie Gladstone, sy'n or-or-or ŵyr i John, ei fod yn "teimlo'n hollol sâl" pan ddaeth i ddeall am y cysylltiadau.
"Does gennym ni ddim esgusodion ar ei gyfer," dywedodd.
Mae disgwyl i Charlie Gladstone a phum aelod arall o'r teulu deithio i Guyana yn ne America i ymddiheuro, yn ôl papur newydd The Observer, dolen allanol.
Yn ôl adroddiadau maen nhw'n bwriadu ariannu ymchwil pellach i effaith caethwasiaeth.
'Trosedd yn erbyn dynoliaeth'
Masnachwr o'r Alban oedd John Gladstone a wnaeth ei ffortiwn wrth blannu siwgr Demerara ac roedd ganddo gannoedd o gaethweision yn gweithio ar ei ran.
Ar ôl i gaethwasiaeth gael ei ddiddymu ym 1833, derbyniodd John yr iawndal mwyaf a wnaed gan y Comisiwn Iawndal Caethweision - tua £93,000 - fyddai'n cyfateb i tua £10m heddiw.
Ym 1831, defnyddiodd William Gladstone, a oedd yn brif weinidog Rhyddfrydol bedair gwaith yn y 19eg ganrif, ei araith gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin i ddadlau o blaid iawndal i berchnogion caethweision.
Ond erbyn 1850, dywedodd ei deulu ei fod "wedi newid", gyda'r cyn-arweinydd yn disgrifio caethwasiaeth fel "y drosedd fwyaf aflan o bell ffordd sy'n llygru hanes dynolryw".
Dywedodd Charlie Gladstone wrth The Observer: "Cyflawnodd John Gladstone droseddau yn erbyn dynoliaeth. Mae hynny'n gwbl glir.
"Y gorau y gallwn ei wneud yw ceisio gwneud y byd yn lle gwell ac un o'r pethau cyntaf yw gwneud yr ymddiheuriad hwnnw ar ei ran."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2015