Cwmni gemau cyfrifiadur i agor pencadlys yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni o'r Unol Daleithiau sy'n arbenigo ar gemau cyfrifiadur yn agor ei bencadlys Ewropeaidd yng Nghymru.
A hwythau wedi gweithio gyda chwmnïau EA a Marvel, Rocket Science Corporation sy'n creu rhai o gemau cyfrifiadurol mwyaf poblogaidd y byd.
Mae disgwyl i'r farchnad gemau cyfrifiadurol fyd-eang fod werth dros £200bn erbyn 2025.
Fe gyfrannodd Llywodraeth Cymru at gost symud y pencadlys yn y gobaith o dyfu'r diwydiant yng Nghymru.
Ffordd o aros yng Nghymru?
Yng Nghaerdydd fydd Rocket Science yn agor ei swyddfeydd - ei drydedd gangen ar ôl Efrog Newydd ac Austin, Texas - gyda de Cymru'n gwasanaethu cwsmeriaid ar draws Ewrop.
Mae'r cwmni wedi gweithio gyda chyhoeddwyr rhai o gemau mwyaf y byd gan gynnwys Fortnite, League of Legends a Battlefield.
Yn frodor o Ben-y-bont, dywedodd cyd-sylfaenydd Rocket Science Thomas Daniel, 38, bod y cwmni'n "dod mewn i weithio ar gemau mwya'r byd ac ry'n ni'n dod â phrofiad ein tîm Americanaidd i Gaerdydd".
"Mae'n mynd i greu sgiliau a phrofiad nad ydw i'n siŵr bod Cymru wedi ei brofi cyn hyn," meddai.
"Ro'n i fel pob plentyn arall yn tyfu lan yng Nghymru ac yn chwarae ar fy Amiga neu Super Nintendo, ond do'n i ddim yn adnabod unrhyw un oedd yn gweithio ym maes gemau cyfrifiadur yng Nghymru.
"Roedd chwarae i Manchester United yn fwy cyraeddadwy na chael llwyddiant yn y diwydiant gemau.
"Roedd rhaid i fi symud i dde-ddwyrain Lloegr achos ar y pryd dyna lle'r oedd y mwyaf o swyddi - ac yna 'mlaen i America.
"Sut allwn ni wneud ein gorau i wneud i'r plentyn ysgol sydd eisiau gwneud gemau i gredu ei fod e'n realiti?
"Ry'n ni'n edrych ar sut allwn ni fod yn sylfaen fel y gallwn ni ddweud mewn ychydig flynyddoedd, 'os ydych chi'n caru gemau cyfrifiadur ac eisiau gweithio yn y maes, arhoswch yng Nghymru'."
Cadw talent yng Nghymru
Mae'r llywodraeth wedi rhoi £825,000 i Rocket Science i agor ei phencadlys Ewropeaidd yng Nghaerdydd a chynnig gwaith am o leiaf y pum mlynedd nesaf.
Diwydiant bychan sy'n tyfu yw'r diwydiant datblygu gemau cyfrifiadurol yng Nghymru.
Yn ôl cymdeithas y datblygwyr gemau cyfrifiadurol annibynnol, TIGA, roedd 140 o ddatblygwyr gemau yng Nghymru yn 2022 o gymharu â llai na 100 yn 2020.
Yn 2021, roedd gan Gymru 0.7% o'r gweithlu datblygu - llawer yn llai na llefydd fel Llundain, de-ddwyrain Lloegr a'r Alban, sy'n gartref i un o gwmnïau datblygu gemau cyfrifiadurol mwyaf y wlad, Rockstar North.
Dyna'r cwmni sy'n gyfrifol am y gyfres gemau enwog Grand Theft Auto.
Caerdydd sydd â'r nifer fwyaf o ddatblygwyr gemau yng Nghymru, gyda chlystyrau bychan yn y gogledd-ddwyrain ac Abertawe.
Mae'r cyhoeddwr mwyaf, Wales Interactive, wedi cyhoeddi gemau ar gyfer Nintendo, PlayStation ac Xbox.
Dywedodd sylfaenydd a phrif weithredwr y cwmni, David Banner, bod y diwydiant yn llawn potensial i Gymru.
"Mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yn gwneud mwy o arian na ffilm a cherddoriaeth gyda'i gilydd," meddai.
"Roedd amser pan nad oedd cefnogaeth ar gael i gemau cyfrifiadurol ond mae ar gael nawr. Mae yna lwybr i gael buddsoddiad yn y diwydiant yng Nghymru.
"Mae llawer o bobl yn awyddus i gael eu cyfle yn y diwydiant gemau cyfrifiadurol beth bynnag eu sgiliau, boed yn raglennu, celf neu gyfrifeg.
"Bydd buddsoddi yn y diwydiant gemau yn cadw'r talent yna ac yn gwneud yn siŵr nad yw'n gadael Cymru ac yn helpu'r economi leol."
Mae yna dwf yn nifer y cyrsiau cynllunio a datblygu gemau cyfrifiadurol i greu gweithlu gyda'r sgiliau angenrheidiol.
Mae cyrsiau ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi eu hen sefydlu, yn ogystal â mewn colegau eraill.
Sefydlwyd Ffowndri Datblygu Gemau Cymru y llynedd gan gwmni iungo Solutions mewn partneriaeth â Choleg Pen-y-bont ac asiantaeth Cymru Greadigol.
Nod y rhaglen yw gwella sgiliau unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu gemau cyfrifiadurol a thechnoleg ymgolli (immersive technology).
Dywedodd prif weithredwr a sylfaenydd iungo, Jessica-Leigh Jones, bod Cymru'n "unigryw" o ran y strwythur creu gemau cyfrifiadurol yma.
'Ffrwydrad yn y diwydiant ers 2020'
"Does ganddom ni ddim busnesau gemau mawr fel Rockstar North yn Yr Alban. Yn hytrach, mae ganddom ni glwstwr o ddatblygwyr annibynnol sy'n cael ei yrru gan weithlu llawrydd," meddai Ms Jones.
"O ganlyniad, mae'r sector yn cyd-weithio llawer mwy o gymharu â rhanbarthau eraill ac mae cymuned gref ymysg y datblygwyr.
"O edrych ar ein gwaith ni o fewn i'r diwydiant gemau yng Nghymru, rwy'n credu'n gryf y gallwn ni greu canolfan ddatblygu gemau gyda chefnogaeth y diwydiant.
"Mae Cymru'n cyflawni llawer mwy na'i photensial yn yr economi greadigol.
"Mae ganddom ni sector deledu a sgrȋn gref a thra bod y clwstwr datblygu gemau yn llai na rhanbarthau eraill, ry'n ni wedi gweld ffrwydrad yn y diwydiant gemau cyfrifiadurol ers 2020."
Dywedodd y dirprwy weinidog dros y celfyddydau, chwaraeon a thwristiaeth, Dawn Bowden y byddai buddsoddiad sylweddol y llywodraeth yn cefnogi'r nod o ddatblygu'r diwydiant gemau yng Nghymru.
"Mae potensial gan y stiwdio newydd hon gan Rocket Science i newid pethau go iawn i'r sector, gan greu 50 o swyddi sy'n talu'n dda, gyrru twf economaidd a datblygu sector gemau cyfrifiadurol Cymru ymhellach, gan gynnig swyddi o safon i'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda diwydiannau'r dyfodol i greu swyddi newydd o safon uchel tra'n cefnogi'r staff sydd eisoes yn gweithio yn y sector hon i ddatblygu'i sgiliau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021
- Cyhoeddwyd27 Medi 2020
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018