Achub pryfyn prin Afon Dyfrdwy diolch i waith cadwraeth
- Cyhoeddwyd
Mae pryfyn yr oedd gwyddonwyr yn ofni oedd wedi diflannu ym Mhrydain wedi cael ei ailddarganfod yng Nghymru, a'i achub gan waith cadwraeth arloesol.
Y gred oedd bod y pryfyn, a elwir y sali melyn prin (scarce yellow sally), wedi diflannu ddegawdau yn ôl.
Ond wedi i nifer fechan gael eu darganfod yn yr Afon Dyfrdwy ger Wrecsam, dechreuodd gwyddonwyr ymgyrch i'w hachub.
Ers hynny mae'r pryfyn wedi cael ei fagu yn Sw Caer, ac mae gwyddonwyr yn gobeithio ei ryddhau yn ôl i'r afon.
Ond maen nhw'n dweud na fydd hyn yn digwydd tan y bydd afonydd yn fwy iach.
Dywedodd Joe Chattell, arweinydd y gwaith yn Sw Caer, mai ailgyflwyno'r pryfyn yw'r nod, ond cyn hynny "mae'n rhaid gwneud rhywbeth i wneud ein hafonydd yn ddigon iach er mwyn i'r anifeiliaid dychwelyd yno".
Ychwanegodd Clare Dinham o Buglife Cymru, a fu'n bartner yn y prosiect, bod yna "gyfrifoldeb arnom i helpu Sali".
"Roedd pryfed cerrig (stone flies) o gwmpas pan roedd y dinosoriaid yma, ac maen nhw'n greaduriaid anhygoel," esboniodd.
Pryfed cerrig yw un o'r grwpiau o bryfed sydd dan y bygythiad mwyaf o ddiflannu.
Gan fyw mewn dyfrffyrdd glan yn unig, maent yn fregus iawn i effaith llygredd a cholli cynefinoedd.
Yn debyg i ganeri mewn pwll glo, mae eu presenoldeb yn dangos a yw'r dŵr yn ddigon iach i weddill creaduriaid yr afon - gan gynnwys eogiaid, dyfrgwn a glas y dorlan.
"Mae'n rhan bwysig o'r gadwyn fwyd yn yr afon; mae'n rhywogaeth garismataidd iawn, yn un o brif ysglyfaethwyr yr afon, ac mae'n eiconig i Afon Dyfrdwy," meddai Ms Dinham.
Mae'r pryfyn wedi bod yn brin erioed. Cafodd ei ddarganfod bob hyn a hyn mewn afonydd ym Mhrydain rhwng 1959 a 1995, cyn iddo ddiflannu.
Cafodd y boblogaeth fechan yn Afon Dyfrdwy eu hailddarganfod yn 2017.
Cafodd 30 o'r pryfed eu casglu, eu cludo i Sw Caer, a'u gosod mewn acwariwm oedd yn dynwared gwely'r afon.
Roedd yr ymgyrch fridio yn llwyddiant, ac mae'r arbenigwyr yn credu mai nhw yw'r cyntaf i fridio'r rhywogaeth trwy gylch bywyd cyflawn mewn sw.
Ond er iddynt ddysgu llawer am y pryfyn yn ystod y prosiect, mae gwyddonwyr dal wedi'i drysu am darddiad ei enw.
"Mae'n dipyn o ddirgelwch," meddai Ms Dinham.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru dywedodd yr entomolegydd Dr Owen Jones: "Mae'n siŵr ei fod yn eithaf cyfarwydd i'r pysgotwyr plu, dyna ma' nhw'n trio neud yw dynwared y pryfed cerrig yma.
"Ac yna aml iawn mae'r enwau cyffredin yn dŵad gan bysgotwyr yn hytrach nag entomolegwyr."
Ychwanegodd: "Mae rhain yn greaduriaid sensitif iawn i lygredd ac maen nhw'n cael eu defnyddio i weld os ydy dŵr yn l'an neu os ydy cynhyrchion newydd fel pla laddwyr yn effeithio ar bryfed.
"Ma' nhw 'di cael eu magu mewn labordai ers rhai blynyddoedd ond y gamp fawr ydy gollwng nhw'n ôl i'r afonydd a bod nhw'n gallu goroesi, a dyna'r her.
"O ran cadwraeth mae o'n bwysig iawn bod ni yn gallu cadw'r rhywogaethau prin yma, a'u dod yn ôl i'r byd naturiol, ond mae'n rhaid i ni lanhau yr afonydd er mwyn iddyn nhw fod digon gl'an iddyn nhw allu magu yn fan 'ny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023