Pryder am dorri coed yn un o gadarnleoedd y wiwer goch

  • Cyhoeddwyd
Parc y Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw fod degau o wiwerod coch yn byw yng Nghoedwig Parc y Bwlch

Mae pryder y bydd un o gadarnleoedd ola'r wiwer goch yng Ngwynedd yn cael ei ddinistrio drwy dorri coed yng Nghoedwig Parc y Bwlch ger Bethesda.

Mae'r goedwig yn gyrchfan boblogaidd i bobl leol, ac mae degau o wiwerod coch yn byw ym mrigau'r coed, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud bod y gwaith torri yn angenrheidiol ac na fyddan nhw'n gwneud hynny yn ystod y tymor magu.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y goedwig yn cynnig cynefin gwell ar gyfer y wiwerod a chreaduriaid eraill yn y dyfodol, ac y bydd arolwg yn cael ei wneud cyn i'r gwaith torri ddechrau.

Disgrifiad o’r llun,

"Os 'dyn nhw jyst yn mynd i dorri yn ddall, mi fydd 'na effaith ar y wiwerod," medd Geraint Strello

Coedwig Parc y Bwlch ydy un o gadarnleoedd ola'r wiwer goch yng Ngwynedd, yn ôl Geraint Strello, sy'n warden gyda'r Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch.

"Mae'n goedlan bwysig oherwydd y lleoliad a'r math gwahanol o goed sydd yma," meddai.

"Dan' ni wedi colli lot o wiwerod yn ardal Felinheli a Treborth gaeaf dwetha' oherwydd brech y wiwerod, wedyn mae hwn yn dipyn bach o gadarnle ar hyn o bryd, yn gadael iddyn nhw fagu a lledaenu wedyn i lefydd eraill yn yr ardal.

"Tydan ni ddim yn erbyn torri'r coed. Be' 'dan ni'n poeni amdano ydy bod Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn gwneud arolwg trylwyr o'r lle 'ma i gael gweld lle mae'r wiwerod.

"Os 'dyn nhw jyst yn mynd i dorri yn ddall, mi fydd 'na effaith ar y wiwerod.

"'Dan ni'n hapus i weithio efo nhw ac i arolwg gael ei wneud gan bobl sydd wedi eu cymhwyso'n iawn - dim aelod staff cyffredinol.

"A bod nhw'n cyhoeddi beth bynnag maen nhw'n cael hyd iddo a chydweithio efo ni fel bo' ni'n gwybod be' sy'n digwydd."

'Sicrhau nad ydyn ni'n cael effaith'

Mae CNC yn dweud y bydd arolwg yn cael ei gynnal cyn i'r gwaith ddechrau, ac na fydd unrhyw waith torri yn digwydd yn ystod y tymor magu.

Maen nhw'n bwriadu torri llai na chwarter y coed, a llawer ohonynt mewn cyflwr peryglus oherwydd haint sydd ar y coed llarwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dylan Williams y bydd CNC yn "ailblannu efo rhywogaethau o goed llawer gwell ar gyfer y wiwer goch"

"Er nad yw'n goetir nodedig ar gyfer wiwerod coch, ers i ni gael adroddiadau bod 'na rai wedi cael eu gweld yn y goedwig, rydym yn mynd i'w thrin yn union fel tasai'n goedwig nodedig ar gyfer wiwer goch," meddai Dylan Williams o CNC.

"Mae hyn yn golygu y byddan ni'n gwneud ymchwil cyn gwneud gwaith torri i weld pa rywogaethau sy'n bresennol, ac yn addasu'r ffordd 'da ni'n gweithio os 'da ni'n darganfod unrhyw fath o rywogaeth allai gael ei effeithio gan y gwaith.

"Dim ond llai na chwarter y goedwig yma 'da ni'n dymchwel y tro yma, a hynny ar ôl i ni wneud ymchwiliad.

"Mi fyddan ni'n gwneud ein gorau i sicrhau nad ydyn ni'n cael effaith arnyn nhw.

"Ond beth sy'n bwysig i gofio ydy y byddan ni'n ailblannu efo rhywogaethau o goed llawer gwell ar gyfer y wiwer goch, a hefyd ar gyfer newid hinsawdd a gwneud o'n llawer mwy cynaliadwy."

Mae disgwyl i'r gwaith torri ddechrau yn Hydref 2024.

Pynciau cysylltiedig