Creu llwybr seiclo newydd drwy Barc Cenedlaethol Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae llwybr seiclo 122 milltir newydd wedi ei greu drwy Barc Cenedlaethol Eryri.
Mae llwybr Traws Eryri yn tywys beicwyr oddi ar y ffordd a heibio golygfeydd trawiadol yr ardal.
Mae'r daith yn mynd heibio'r Wyddfa, Aber Mawddach a choedwig Gwydir.
Fe gafodd ei greu gan elusen Cycling UK ac fe wnaeth eu prif weithredwr ddadlau mai gogledd Cymru yw "canolbwynt antur Prydain".
Ychwanegodd Sarah Mitchell: "Gyda Traws Eryri, ry'n ni eisiau ysbrydoli pobl i fentro tu hwnt i'r goedwig ac archwilio mwy o'r parc cenedlaethol mewn ffordd gynaliadwy ac actif."
Fe gafodd y llwybr ei greu dros gyfnod o dair blynedd, gyda swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda'r cyhoedd a beicwyr profiadol, yn ogystal â pherchnogion tir yn yr ardal.
Fe orffennodd Katherine Moore, sy'n newyddiadurwr seiclo, y llwybr yn llawn ddydd Mawrth a dywedodd ei fod yn "anodd" ond yn "talu ar ei ganfed" gyda llwybrau serth "arbennig".
"Roedd e'n gwbl ryfeddol, yn bedwar diwrnod allan," dywedodd.
"Ar gyfer bob darn serth, mae'r golygfeydd mwyaf anhygoel. Y ffordd fwyaf hudolus o fwynhau'r parc cenedlaethol."
Mae gwerth 4,424m (14,514tr) o esgyniadau - pedair gwaith uchder copa uchaf y wlad, Yr Wyddfa.
Gobaith am fudd economaidd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhan o'r cynllunio, a dywedodd John Taylor o'r mudiad y byddai'n cyfuno hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau presennol i greu "llwybr beicio sy'n teimlo'n fwy gwyllt".
Mae gwariant twristiaeth feicio yn y DU yn cynhyrchu £520m y flwyddyn, yn ôl Cycling UK.
Tynnodd yr elusen sylw at lwybr a agorodd yn 2020 - King Alfred's Way yng Nghaerwynt - lle mae'r beiciwr cyffredin yn gwario £83.60 y dydd ar fwyd a llety.
Mae'n gobeithio y bydd Traws Eryri yn arwain at fuddiannau economaidd tebyg i sector lletygarwch y gogledd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018