Eryri: Rhybudd am barcio 'anghyfreithlon' dros ŵyl y banc

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau'n cael eu symudFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhybuddio pobl rhag parcio'n "anghyfrifol ac anghyfreithlon", wrth iddyn nhw baratoi am dri phenwythnos gŵyl banc o fewn mis.

Mae disgwyl i ardal Eryri fod yn brysur unwaith eto dros y dydiau nesaf wrth i ymwelwyr fanteisio ar y penwythnos hir - gyda dau arall i ddod hefyd ar benwythnos y Coroni, ac ar ddiwedd mis Mai.

Ond daw'r rhybudd yn dilyn problemau traffig sylweddol dros benwythnos hir y Pasg fis diwethaf, gyda tua 40 o geir yn gorfod cael eu symud mewn diwrnod a rhan o'r A5 hefyd yn gorfod cau am gyfnod.

Yn dilyn cwynion hefyd am amseroedd aros hir ar gyfer bysiau, dywedodd y parc y bydden nhw'n adolygu'r trefniadau i deithwyr a thwristiaid.

Disgrifiad,

Ceir yn cael eu towio ger Pen-y-pass yn Eryri ar benwythnos Pasg 2023

Ond ar hyn o bryd maen nhw'n parhau i annog ymwelwyr i ddefnyddio ap Parcio Eryri i ddod o hyd i wybodaeth am lefydd parcio, yn ogystal â gwasanaethau bws yn ardaloedd Llanberis a Dyffryn Ogwen.

Ychwanegodd y parc y gallai "parcio anghyfreithlon yn y ddau leoliad arwain at gosbau".

"'Dan ni am i bawb fwynhau eu hunain yn Eryri, trwy gynllunio o flaen llaw a dilyn cyngor, gall ymwelwyr sicrhau y bydd y penwythnos gŵyl banc hwn yn llwyddiant i bawb," meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

"Dylai ymwelwyr ag Eryri fod â chynllun wrth gefn rhag ofn y bydd y man mae'n nhw'n dymuno ymweld ag o yn rhy brysur. Gall prysurdeb rhai ardaloedd achosi prinder llefydd parcio a mwy o dagfeydd.

"Gall ymweld ag ardaloedd llai prysur neu ymweld ar adegau tawelach roi profiad mwy pleserus a chynaladwy, tra'n galluogi ymwelwyr werthfawrogi harddwch naturiol Eryri."