Hedfan plentyn i'r ysbyty ar ôl cael ei daro oddi ar ei feic

  • Cyhoeddwyd
LlangadogFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r digwyddiad ym mhentref Llangadog nos Fercher

Mae plentyn wedi cael ei hedfan i'r ysbyty gan yr ambiwlans awyr ar ôl cael ei daro oddi ar ei feic yn Sir Gâr.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng plentyn ar feic â fan ar Stryd Fawr Llangadog.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad yn y pentref ychydig cyn 19:00 nos Fercher.

Yn ôl y gwasanaeth, cafodd dau gerbyd ambiwlans eu gyrru i'r digwyddiad, a'r ambiwlans awyr, ac fe gafodd y plentyn ei hedfan i'r ysbyty yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heol ei gau am gyfnod tra bod ymholiadau'n cael eu cynnal, cyn ailagor am 23:00.

Does dim mwy o wybodaeth am gyflwr y plentyn.

Pynciau cysylltiedig