Llanc wedi bygwth torri braich Aled Jones wrth ddwyn oriawr

  • Cyhoeddwyd
Aled JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aled Jones yn cerdded gyda'i fab yn Llundain pan ddigwyddodd y lladrad

Fe wnaeth llanc 16 oed fygwth torri braich y canwr o Gymru Aled Jones gyda machete wrth iddo ddwyn ei oriawr Rolex, gwerth £17,000.

Clywodd llys fod y canwr 52 oed yn cerdded gyda'i fab ar Chiswick High Road yng ngorllewin Llundain, o gwmpas 17:40 ar 7 Gorffennaf, pan ymosododd y bachgen arno.

Roedd y bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oedran, i fod i sefyll ei brawf yn Llys Ieuenctid Wimbledon ddydd Iau, ond plediodd yn euog i gyhuddiadau o ladrata, a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Dywedodd yr erlynydd wrth y llys yn gynharach fod bachgen wedi dod at Mr Jones a thynnu machete o'i drowsus, gan wneud bygythiadau, yn cynnwys torri ei fraich i ffwrdd er mwyn cael yr oriawr.

"Fe roddodd Aled Jones yr oriawr iddo yn syth ac fe redodd y diffynnydd i ffwrdd," meddai.

'Trosedd ddifrifol'

Cafodd y llanc ei arestio yn ei gartref yng ngorllewin Llundain, ar ôl i luniau CCTV gael eu casglu yn yr ardal.

Daethpwyd o hyd i'r machete yn y tŷ.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarthol Andrew Sweet fod y drosedd yn un "ddifrifol iawn, iawn".

Cafodd yr achos ei ohirio ar gyfer paratoi adroddiadau.

Bydd y llanc yn ymddangos o flaen Llys Ieuenctid Ealing ym mis Medi, ond rhybuddiodd y barnwr y gallai'r achos gael ei glywed mewn Llys y Goron.

Cafodd y bachgen ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod ei fod yn byw ac yn cysgu yn rhywle wedi'i benodi gan yr awdurdod lleol.

Pynciau cysylltiedig