Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Sheffield Wednesday

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd v PrestonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ike Ugbo a sgoriodd y gôl gyntaf i Gaerdydd

Roedd yna fuddugoliaeth ddramatig i'r Adar Gleision brynhawn Sadwrn - eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn.

Digon cyfartal oedd y chwarae yn chwarter cyntaf y gêm yng Nghaerdydd, ond yn araf roedd tîm y brifddinas yn gwella eu chwarae.

Roedd Aaron Ramsey yn cael gafael yn y gêm a daeth sawl cyfle da ond dim gôl.

Tair munud o'r ail hanner oedd eu hangen i Gaerdydd fynd ar y blaen.

Cafodd Callum O'Dowda ei ben i'r bêl a'i gosod wrth droed Ike Ugbo yn y blwch cosbi a wnaeth wedyn ei rhwydo gyda'i droed chwith.

Ond doedd Sheffield ddim am ildio a chydag ergyd o ymylon y blwch cosbi fe wnaeth Barry Bannan unioni'r sgôr.

Yna yn yr eiliadau olaf, wyth munud heibio'r 90, fe gafodd yr Adar Gleision gic o'r smotyn wedi trosedd gan Will Vaulks ac fe rwydodd Ryan Wintle gan sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd - y gyntaf y tymor hwn.