Adran Dau: Casnewydd 3-1 Sutton United

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y drydedd fuddugoliaeth i Gasnewydd wedi pedair gêm

Gêm digon ddigynnwrf a ddi-sgôr oedd yng Nghasnewydd yn yr hanner cyntaf rhwng yr Alltudion a Sutton United yn Adran Dau.

Yn fuan yn yr ail hanner aeth Sutton ar y blaen drwy ergyd droed dde Omari Patrick o ganol y blwch cosb.

Gydag ugain munud ar ôl o'r gêm daeth yr Alltudion yn gyfartal gyda Joe Kizzi, cefnwr Sutton, yn sgorio yn ei gôl ei hun.

Fe wnaeth y gôl newid agwedd yr Alltudion ac fe ddaeth ail gôl i'r tîm cartref - croesiad gan Shane McLoughlin a Harry Charsley yn codi i benio'r bêl heibio Rose yn gôl Sutton.

Fe sgoriodd Wil Evans gôl arall wedyn yn munudau olaf y 90 munud wedi croesiad gan Seb Palmer-Houlden.

Yr Alltudion felly yn cipio tri phwynt ac yn codi i'r chweched safle yn y gynghrair.