Wcráin: 'Pwysig parhau i gofio yr hyn sy'n digwydd'
- Cyhoeddwyd
Daeth degau o bobl ynghyd yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn i nodi diwrnod annibyniaeth Wcráin a hynny 18 mis ers dechrau ymosodiadau Rwsia ar y wlad.
24 Awst yw Diwrnod Cenedlaethol Wcráin ac mae'n dathlu datganiad annibyniaeth y wlad ym 1991, ar ôl i'r hen Undeb Sofietaidd ymrannu.
Mae'r orymdaith fechan a drefnwyd heddiw yn un o nifer o ddigwyddiadau y mae grŵp gwirfoddol 'Cardiff for Ukraine' wedi'u trefnu a'u prif nod yw sicrhau cymorth i'r rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn sgil y rhyfel.
Mae'r arian a godir ganddynt yn cael ei ddefnyddio i gefnogi elusennau dyngarol cofrestredig ac ysbytai.
Yn y digwyddiad ddydd Sadwrn dywedodd Andrii Zhuravskyi, un o'r trefnwyr :"Ry'n wedi bod yn cydlynu ralïau er budd pobl Wcráin ers yr ymosodiadau gan luoedd Rwsia 18 mis yn ôl ac heddiw ry'n yn dathlu Diwrnod Annibyniaeth Wcráin.
"Mae'n beth da bod Wcráin yn dal ei thir ond yn amlwg ry'n dal angen cymorth.
"Mae tipyn o adrenalin wedi ei golli ers dechrau'r ymosodiadau a does dim cymaint o sylw i'r ymladd ar y newyddion.
"Ry'n yn credu bod gorymdeithiau fel yr un yma yn cadw yr hyn sy'n digwydd yn llygad y cyhoedd.
"Mae pobl wedi blino. Mae'n amhosib brwydro hyd eithaf eich gallu bob dydd ond mae digwyddiadau cyhoeddus yn ffordd dda o gael pobl ynghyd a dangos cefnogaeth."
Yn bresennol yn y digwyddiad hefyd roedd teuluoedd o Wcráin sydd wedi cael lloches yng Nghymru.
Iddyn nhw roedd yr orymdaith yn ddigwyddiad pwysig i nodi annibyniaeth Wcráin yn 1991.
Hefyd ymhlith y dorf roedd rhai a oedd wedi rhoi lloches i ffoaduriaid o Wcráin.
"Fe wnes i gymryd person o Wcráin ryw flwyddyn a hanner yn ôl," medd un, "a dwi wedi fy mabwysiadu gan yr Wcreiniaid erbyn hyn.
"Mae'n anodd credu bod rhywun am ddinistrio eu gwlad a'u diwylliant. Mae'n gas gen i'r sefyllfa ond dwi'n falch bod Cymru wedi rhoi croeso i gynifer o ffoaduriaid.
"Un diwrnod fyddai'n bendant yn mynd yno."
Mae dros 7,000 o Wcreiniaid wedi cyrraedd Cymru ers i'r cynllun Cartrefi i Wcráin agor.
Mae tua hanner o'r bobl hynny wedi cael eu cefnogi gan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, gyda dros 2,000 mewn llety tymor hir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022