Arestio pump wedi rêf ar Fynydd Rhigos

  • Cyhoeddwyd
Rhigos

Mae mwyafrif y bobl oedd ar safle rêf anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf dros y penwythnos wedi gadael erbyn hyn, yn ôl Heddlu De Cymru.

Roedd adroddiadau cychwynnol wedi awgrymu bod 200 o bobl yn bresennol ar Fynydd Rhigos yn ystod oriau mân fore Sul.

Fe gafodd pump o bobl eu harestio ac fe gafodd gorchymyn gwasgaru ei gyflwyno fore Sul er mwyn lleihau aflonyddwch i'r gymuned leol.

Cafodd cerbyd oedd yn cynnwys offer sain hefyd ei gymryd gan yr heddlu.

Bu'n rhaid cau nifer o ffyrdd sy'n arwain at y mynydd o Hirwaun a Threherbert, ac fe gafodd cordon ei osod er mwyn atal pobl eraill rhag ymuno â'r digwyddiad.

Gwasgaru 'heddychlon'

Roedd uned heddlu'r ffyrdd, yr adran gŵn a thîm Cymorth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu yn rhan o ymateb y llu.

Dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad bod pobl wedi eu gwasgaru "yn heddychlon ac yn ddiogel" a bod "mwyafrif y bobl oedd ar y safle nawr wedi gadael".

Ychwanegodd y datganiad fod swyddogion yn parhau ar y safle i sicrhau bod y rhai sydd ar ôl yn gadael yn ddiogel.

Pynciau cysylltiedig