Iawndal i fenyw a gafodd ei harestio yn ei chartref
- Cyhoeddwyd
![Louise Badman](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/183A0/production/_130923299_newproject.jpg)
Dywedodd Louise Badman bod y digwyddiad wedi achosi trawma ofnadwy iddi
Mae menyw anabl sy'n dweud i'r heddlu ddod i mewn i'w chartref a'i harestio yn oriau mân y bore wedi derbyn £40,000 o iawndal.
Mae Louise Badman, 49, yn honni i heddwas afael ynddi'n "ymosodol" a'i gwthio i'r wal wrth iddi gael ei harestio gan Heddlu De Cymru.
Mae'r fam yn dweud bod y digwyddiad wedi achosi trawma ofnadwy iddi.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod wedi setlo achos sifil a ddaeth o ganlyniad i arestio menyw yn ei chartref.
Dywedodd Ms Badman, o Borthcawl, ei bod wedi deffro yn oriau mân y bore ar 12 Medi 2020, gyda thri heddwas wrth ei drws.
"Roedd hi tua 02:30 ac fe wnaeth y tri heddwas 'ma fy neffro i," meddai.
"Ro'n i'n grumpy achos dydw i ddim yn cysgu'n dda ar yr adegau gorau.
"Es i i fy ffenest lawr staer i siarad gyda nhw, a nes i ofyn iddyn nhw ddod 'nôl ar amser rhesymol."
'Lefel anghymesur o drais'
Mae Ms Badman wedi cael diagnosis o gyflwr PTSD, gorbryder ac iselder, ac mae ganddi broblemau drwg gyda'i chefn.
Dywedodd bod yr heddweision wedi mynd yn "confrontational ac ymosodol", a bod heddwas benywaidd wedi rhoi ei llaw trwy'r ffenest a datgloi'r drws.
"Ro'n i yn fy mhyjamas. Doedd gen i ddim byd ar fy nhraed, ac fe wnaethon nhw fy ngwthio yn erbyn y wal a rhoi gefynnau arna i," meddai.
"Oherwydd ble roedd fy mreichiau, ro'n i mewn cryn dipyn o boen. Ro'n i'n sgrechian arnyn nhw i stopio am eu bod nhw'n fy mrifo, ac fe wnaeth fy nhrowsus pyjamas gwympo lawr.
"Ro'n i yno'n sefyll, gyda phopeth yn dangos, a wnaeth y swyddogion ddim ymdrech i godi fy nhrowsus a chadw fy mharch."
![Louise Badman](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15C90/production/_130923298_newproject.jpg)
Dywedodd Louise Badman bod yr iawndal yn golygu dim os nad yw'r heddweision yn cael eu cosbi
Fel dioddefwr cam-drin rhyw pan yn ifanc, dywedodd Ms Badman fod y digwyddiad yma wedi gwneud iddi deimlo'r un ffordd ag yr oedd hi fel plentyn - wedi'i hysgwyd, a gyda neb yn helpu.
"Roedd e'n ofnadwy. Ro'n i'n teimlo fel mod i ddim yn haeddu parch gan Heddlu De Cymru," meddai.
"Does gen i ddim hanes o drais. Doedd 'na ddim awgrym bod angen defnyddio'r lefel anghymesur o drais y gwnaethon nhw, a doedd dim rheswm ganddyn nhw i gredu na fydden i'n cydymffurfio."
Gwrthod cais am ddŵr a blanced
Dywedodd Ms Badman hefyd fod y swyddogion wedi gwrthod cais ganddi am ddŵr a blanced ar ôl iddi gael ei harestio.
"Ro'n i'n crynu yn y fan ac fe wnaeth fy nhrowsus gwympo lawr eto. Nes i ofyn eto am flanced ac fe gafodd hyn ei wrthod.
"Ro'n i'n crynu ac rwy'n credu mod i wedi mynd mewn i sioc - nes i ddechrau chwydu, a ro'n i'n erfyn arnyn nhw am feddyg."
Dywedodd fod y cais yma wedi cael ei wrthod hefyd, ac na chafodd gwpan er mwyn gallu yfed dŵr yn ei chell.
Yn ôl Ms Badman, roedd y digwyddiad yn deillio o honiad ffug gan rywun yr oedd hi erioed wedi'i gyfarfod.
Fe wnaeth Heddlu'r De ei chyhuddo, cyn i Wasanaeth Erlyn y Goron dynnu'r cyhuddiad yn ôl oherwydd diffyg tystiolaeth.
"Rydw i'n fenyw fregus, anabl. Do'n i ddim yn fygythiad i ddau heddwas gwrywaidd ac un benywaidd," meddai Ms Badman.
Galw am gosbi'r heddweision
Ychwanegodd nad yw'r iawndal y mae hi wedi'i dderbyn yn golygu unrhyw beth os nad yw'r heddweision yn cael eu cosbi.
"Rydw i eisiau gweld newid, ac i'r swyddogion gael eu cosbi," meddai.
"Os ydyn ni'n ymosod ar heddwas, fe fydden ni yn y carchar - dylai'r un peth ddigwydd iddyn nhw."
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, Rachel Bacon: "Rydw i wedi ymddiheuro am ymddygiad swyddogion pan gafodd Ms Badman ei harestio, ac am y gofid a achoswyd.
"Rwy'n ymwybodol fod y digwyddiadau yma wedi'i hysgwyd a tharo ei hyder yn yr heddlu a'i hiechyd.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr ymddiheuriad a'r setliad yn yr achos sifil yn ailadeiladu ei hyder yn yr heddlu, a dechrau'r broses o adfer."