Gwynedd: Cais i godi 30 o dai fforddiadwy ym Methel

  • Cyhoeddwyd
BethelFfynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 30 o dai wedi eu clustnodi ar gyfer tir gyferbyn a Stad Cremlyn, a drws nesaf i Ysgol Gynradd Bethel

Mae cais i godi 30 o dai fforddiadwy mewn pentref yng Ngwynedd wedi ei gyflwyno i'r cyngor sir.

Mae'r datblygiad arfaethedig, sydd wedi ei gyflwyno gan Williams Homes (Bala) Ltd a'r gymdeithas dai Adra, yn datgan mai nod y cynllun yw "darparu tai o safon ym Methel".

Wedi ei glustnodi ar gyfer tir gyferbyn â Stad Cremlyn, a drws nesaf i Ysgol Gynradd Bethel, byddai'r tai yn gymysgedd o unedau rhent canolradd a chymdeithasol.

Ym Mehefin nododd adroddiad i'r cyngor fod 3,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, ac yn 2020 roedd 65% o drigolion Gwynedd yn methu fforddio prynu cartref yn y sir.

Mae'r cais ei hun yn nodi: "Bydd y cynllun yn ceisio darparu pob un o'r 30 annedd fel anheddau fforddiadwy.

"Byddai'r ymgeisydd yn darparu'r unedau fforddiadwy i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, sef Adra (Tai) Cyf."

Ffynhonnell y llun, Dogfennau Cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o sut allai'r stad edrych ar ôl ei chwblhau

Byddai'r tai a'r fflatiau yn amrywio o un i bedair ystafell wely yr un, gyda safle'r cais eisoes wedi'i ddynodi ar gyfer 28 o dai o dan Gynllun Datblygu Tai Gwynedd a Môn.

"Mae'r egwyddor o ddatblygu cymysgedd o dai ar y farchnad agored a thai fforddiadwy ar safle dynodedig o fewn ffin ddatblygu Bethel yn dderbyniol mewn termau polisi," ychwanegodd y datblygwyr.

Fis diwethaf fe gymeradwywyd cais arall gan Williams Homes (Bala) Ltd i adeiladu 41 tŷ fforddiadwy ym Mhenrhyndeudraeth, gyda'r bwriad bod yn dod o dan berchnogaeth cymdeithasau tai Grŵp Cynefin a Clwyd-Alun er mwyn eu rhentu a'u gwerthu unwaith byddant wedi'u hadeiladu.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cyhoeddi bwriad i adeiladu tai ei hun am y tro cyntaf mewn dros 30 mlynedd.

Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd wneud penderfyniad dros y misoedd nesaf.

Pynciau cysylltiedig