Canfod corff wedi i gar fynd i'r dŵr ym marina Abertawe

  • Cyhoeddwyd
marina Abertawe

Mae corff wedi cael ei ganfod ar ôl i gar fynd i'r dŵr ym marina Abertawe fore Mercher.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dyn, ond ychwanegodd yr Arolgydd Chris Evans nad oes esboniad amlwg am y farwolaeth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 10:00, ac erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd car o dan y dŵr gyda chorff dyn y tu mewn iddo.

Yn gynharach fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad wedi i gar fynd drwy farier.

Ychwanegodd yr heddlu bod eu ymholiadau yn parhau er mwyn canfod union amgylchiadau'r digwyddiad.

Roedd y Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn bresennol.

Dywedodd llygad-dystion eu bod wedi gweld car yn teithio ar gyflymder i lawr heol Burrows Place, cyn taro drwy'r barier a disgyn i'r dŵr.

Mae swyddogion cyngor bellach ar y safle yn cynorthwyo gyda'r gwaith o lanhau'r difrod.

Mae'r twll yn y barier, sydd bellach wedi cael ei gau i ffwrdd, yn agos i ran prysur o'r marina ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a chaffis a thafarndai cyfagos.