Cyhoeddi enw dyn 52 oed fu farw ym marina Abertawe

  • Cyhoeddwyd
marina4
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y car dros rwystr i ardal sydd i gerddwyr yn unig, cyn mynd trwy rwystr arall ac i mewn i'r marina

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn lleol fu farw ar ôl i'w gar fynd i'r dŵr ym marina Abertawe.

Bu farw Andrew Harding, 52, yn y digwyddiad tua 10:00 fore Mercher.

Mae'r llu wedi cadarnhau eu bod yn parhau i drin y farwolaeth fel un heb esboniad, a bod eu "hymholiadau yn parhau er mwyn canfod union amgylchiadau'r digwyddiad".

Dywedodd yr heddlu fod lluniau CCTV yn dangos fod y car Audi du yn gyrru ar gyflymder ar ffordd Burrows Place pan aeth dros rwystr i ardal sydd i gerddwyr yn unig, cyn mynd trwy rwystr arall ac i mewn i'r marina.

Bydd prawf post mortem yn cael ei gynnal ddydd Gwener er mwyn ceisio sefydlu achos marwolaeth Mr Harding.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Pynciau cysylltiedig