Gwrthod parti bedydd i deulu o Deithwyr Gwyddelig

  • Cyhoeddwyd
Clwb Ceidwadol y ParcFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Ceidwyr y Parc wedi ymddiheuro i'r teulu

Mae teulu o Deithwyr Gwyddelig wedi derbyn iawndal wedi i Glwb Ceidwadol wrthod cynnal eu parti bedyddio.

Fe dderbyniodd y tad a merch iawndal i setlo eu hawliad am wahaniaethu ar sail hil.

Daw ar ôl i Glwb Ceidwadwyr y Parc yng Nghaerdydd wrthod cynnal eu parti ar ôl ddarganfod eu bod yn Deithwyr Gwyddelig.

Dywedodd y clwb ei fod yn "ymddiheuro'n ddiffuant".

Yn ôl Leigh Day Solicitors, a gynrychiolodd y ddau, roedd y tad wedi holi am gynnal parti bedyddio ei ferch ifanc mewn ystafell ddigwyddiadau yng Nghlwb Ceidwadwyr y Parc ym mis Mawrth 2022.

Ond yn ystod galwad ffôn ag aelod o staff, mae'n honni y dywedwyd wrtho fod bwrdd y clwb wedi pleidleisio yn ddiweddar i roi'r gorau i gynnal digwyddiadau Teithwyr Gwyddelig.

Cafodd y tad ei synnu gan yr ymateb a ffoniodd yr aelod o staff yn ôl a recordio ei sgwrs.

Yn ystod yr ail alwad, dywedwyd wrtho bod Teithwyr Gwyddelig wedi'u gwahardd rhag cynnal partïon yn y lleoliad oherwydd problemau yn ystod digwyddiadau blaenorol.

Cymerodd y tad a'r ferch, sy'n dymuno aros yn ddienw, gamau cyfreithiol yn erbyn y clwb ar y sail eu bod wedi gwahaniaethu'n hiliol yn erbyn y ddau oherwydd eu bod yn Deithwyr Gwyddelig.

Roedd yr hawliad hefyd yn cynnwys un o aflonyddu yn erbyn y tad o ganlyniad i sylwadau sarhaus yr aelod o staff am Deithwyr tra'r oedd yn ceisio gwneud yr archeb.

Cafodd ei setlo wedi i Glwb Ceidwadwyr y Parc gytuno i dalu iawndal iddyn nhw.

"Roedd cael gwybod ein bod wedi cael ein gwahardd rhag archebu'r lleoliad hwn i ddathlu bedydd fy merch, dim ond oherwydd ein bod yn Deithwyr Gwyddelig, yn peri gofid mawr i'n teulu," meddai'r tad.

"Dyw hi ddim yn iawn bod pobl fel fi yn cael eu trin mor annheg, yn aml yn ddyddiol.

"Dwi'n gobeithio, trwy ddod â'r achos yma, y ​​gallwn ni helpu i ddod â'r math yma o wahaniaethu i ben fel y gall ein cymuned fwynhau'r un hawliau â phawb arall."

Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Ceidwadwyr y Parc nad yw'r aelod o'r bwrdd a ddywedodd wrth staff am beidio â chymryd yr archeb bellach yn y clwb.

"Mae'n wir ddrwg gennym fod hyn wedi digwydd, roedd yn anffodus iawn," meddai'r clwb.

"Fe wnaethon ni syrthio ar ein bai yn syth syth, ni ddylai fod wedi digwydd.

"Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddod dros y peth, mae yna bwyllgor newydd sbon. Rydym wedi cael priodasau a phartïon gyda'r gymuned teithwyr ers hynny.

"Rydw i eisiau pwysleisio, rydyn ni wir yn flin iawn."

Pynciau cysylltiedig