Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-2 Bristol City

  • Cyhoeddwyd
Ollie Cooper a Matthew JamesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Yr ymwelwyr aeth a hi ar Stadiwm Swansea.com brynhawn Sadwrn

Llwyddodd Bristol City i ddod yn ôl i sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn Abertawe a gadael y tîm cartref yn parhau i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor.

Yn erbyn llif y chwarae yr Elyrch aeth ar y blaen wrth i Liam Cullen orffen yn daclus diolch i bêl wych Charlie Patino.

Ond er cael tair gôl wedi'u gwrthod a methu llu o gyfleoedd, daeth Bristol City yn gyfartal yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Mark Sykes danio o'r asgell dde.

Yna chwaraeodd Sykes groesiad isel i Sam Bell i roi'r ymwelwyr ar y blaen

Ond er i Ben Cabango benio yn erbyn postyn, yr ymwelwyr oedd yn haeddu mynd a hi.

Nid oedd maint y fuddugoliaeth yn adlewyrchu'r bwlch rhwng y timau, gydag Abertawe yn ei ffendio'n anodd i wneud argraff.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Michael Duff yn parhau i fod heb fuddugoliaeth yn y gynghrair ers cymryd yr awenau dros yr haf.