Y Bencampwriaeth: Ipswich 3-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rhwydodd Aaron Ramsey dros yr Adar Gleision ond Ipswich hawliodd y pwyntiau ar Portman Road

Er i Gaerdydd fod 2-0 ar y blaen ar un cyfnod, roedd dwy gôl gan Freddie Ladapo ac un i Nathan Broadhead yn ddigon i hawlio'r triphwynt i Ipswich.

Llwyddodd Aaron Ramsey i roi'r Adar Gleision ar y blaen cyn i ergyd gywir Joe Ralls ddyblu'r fantais yn gynnar yn yr ail hanner.

Ar y pryd roedd Caerdydd mewn sefyllfa dda i hawlio'u buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn y gynghrair o dan Erol Bulut.

Ond fe drodd y gêm ar ei phen yn dilyn ergyd wych ymosodwr Cymru, Nathan Broadhead, cyn i Ladapo ddod a'r tim cartref yn gyfartal.

Daeth y gôl fuddugol gyda 12 munud yn weddill yn dilyn arbediad gan golwr Caerdydd, Alex Runarsson, ond disgynnodd y bêl yn garedig i Ladapo a dros y llinell gôl.