Adran Dau: Casnewydd 2-2 AFC Wimbledon

  • Cyhoeddwyd
Omar Bogle a James BallFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Casnewydd a Wimbledon yn mwynhau dechrau addawol i'r tymor

Brwydrodd Casnewydd yn ôl i sicrhau gêm gyfartal gartref yn erbyn AFC Wimbledon.

Sgoriodd James Tilley ei chweched gôl o'r tymor wedi naw munud i roi'r ymwelwyr ar y blaen, cyn rhwydo ei ail wedi hanner awr.

Sgoriodd Will Evans yn eiliadau olaf yr hanner i haneru'r fantais cyn i Omar Bogle unioni'r sgôr 10 munud i mewn i'r ail hanner.

Bu bron i Tilley sicrhau hat-tric a'r triphwynt, ond taro'r trawst wnaeth ei ymdrech.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wimbledon yn bumed a Chasnewydd yn chweched, wrth i'r ddau fwynhau dechrau addawol i'r tymor.