Teyrngedau i'r 'Cymro gorau i chwarae'r ddau gôd rygbi'

  • Cyhoeddwyd
David WatkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

David Watkins yng nghartref Clwb Rygbi Casnewydd yn 1998

Mae David Watkins, a chwaraeodd i dimau rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair dros Gymru, wedi marw yn 81 oed.

Fe gafodd ei ddewis hefyd i fod yn rhan o dimau Llewod y ddau gamp.

Enillodd 21 o gapiau rhyngwladol rygbi'r undeb rhwng 1963 a 1967 ac 16 yn ychwanegol ar ôl symud i rygbi'r gynghrair, gan gael ei gapio chwe gwaith yr un i dimau'r Llewod.

Dywedodd Rygbi Cynghrair Cymru: "Mae Dai, fel yr oedd yn cael ei nabod yn annwyl, yn cael ei gydnabod fel un o'r Cymry gorau i wisgo crys rygbi."

Yn ôl cyn-gapten Cymru, y darlledwr Jonathan Davies, roedd Watkins yn un o "anfarwolion y ddau gôd rygbi, yn fentor, yn ysbrydoliaeth ac yn gyfaill da".

Ychwanegodd ei fod yn chwaraewr "dewr" ac "yn un o'r rhai cyflymaf ar y maes", yn ogystal â bod "yn gwmni gwych oddi ar y cae".

'Un o chwaraewyr gorau Casnewydd'

Yn enedigon o'r Blaenau, fe ddaeth Watkins i amlygrwydd yng Nghymru ar ôl ymuno â Chlwb Rygbi Casnewydd yn 1961, ac roedd yn rhan o'r tîm a drechodd Seland Newydd 3-0 yn 1963.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y clwb: "Rydym yn drist eithriadol o glywed fod David "Dai" Watkins, un o chwaraewyr gorau'r clwb erioed, wedi marw...

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd David Watkins i dimau Glynebwy a Phont-y-pŵl cyn ymuno â Chasnewydd

"Enillodd Bencampwriaeth Cymru yn ei dymor cyntaf, cyn chwarae rhan allweddol yn ein buddugoliaeth enwog yn erbyn y Crysau Duon...

"Roedd yn gapten ar y clwb rhwng 1964 a 1968 ac roedd hefyd yn gapten ar Gymru a'r Llewod Prydeinig."

Pan symudodd i chwarae rygbi'n broffesiynol yn Salford am £16,000 yn 1967, fe gafodd Watkins ei atal rhag chwarae rygbi'r undeb.

'Ffigwr allweddol'

Fe fydd yn cael ei gofio fel un o'r chwaraewyr gorau o Gymru i chwarae yn y ddau gôd, yn ôl yr RFL (Rugby Football League).

Ychwanegodd llefaryddd ei fod yn "ffigwr allweddol yn oes aur clwb Salford" gan wneud dros 400 o ymddangosiadau a sgorio bron i 3,000 o bwyntiau pan ddaethon nhw'n bencampwyr ddwywaith o fewn tri thymor yn y 1970au canol.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Watkins wobr cyfraniad arbennig seremoni Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru yn 2017

Wedi gyrfa lwyddiannus yn ei gôd newydd, fe ddaeth yn hyfforddwr, gan arwain Prydain Fawr i rownd derfynol Cwpan y Byd 1977, ble y gwaethon nhw golli o drwch blewyn i Awstralia.

Aeth ymlaen i hyfforddi Cymru a helpu sefydlu'r tîm cynghrair Cardiff Blue Dragons.

Fe ddychwelodd wedi hynny i fod yn rheolwr Casnewydd yn 1992 cyn mynd ymlaen i fod yn gadeirydd ac yn llywydd y clwb.

Fe gafodd MBE yn 1986 a'i gynnwys yn Oriel Enwogion Rygbi'r Gynghrair y Dynion, ac fe dderbyniodd wobr cyfraniad arbennig yn seremoni Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru yn 2017.