Treialon yn rhoi gobaith i gleifion MS yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd Dafydd Wyn, 32, ddiagnosis sglerosis ymledol yn 2021

Mae treialon i ddarganfod triniaethau newydd ar gyfer sglerosis ymledol (MS) yn rhoi gobaith i filoedd o bobl sydd â'r cyflwr, yn ôl cyflwynydd teledu S4C.

Cafodd Dafydd Wyn, 32, ddiagnosis sglerosis ymledol yn 2021 ar ôl dioddef cyfnodau o benysgafnder a nam lleferydd.

Uchelgais y rhaglen Octopus yw dod o hyd i driniaethau all arafu neu atal anabledd i bobl â sglerosis ymledol cynradd ac eilradd.

Yr ysbyty athrofaol yng Nghaerdydd sy'n cynnal y treialon Octopus cyntaf yng Nghymru.

Mae mwy na 130,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda MS gan gynnwys 5,600 o bobl yng Nghymru.

Mae'r afiechyd yn effeithio ar yr ymennydd a llinyn y cefn ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn diagnosis yn eu hugeiniau neu dridegau yn ôl yr elusen Multiple Sclerosis Trust.

'Dyw rhywbeth ddim cweit yn iawn'

Cyfnodau byr o deimlo'n benysgafn a chael nam lleferydd dros dro oedd y symptomau a orfododd cyflwynydd rhaglenni Heno a Prynhawn Da, Dafydd Wyn, i gysylltu gyda'r meddyg teulu.

"Byddai'r pyliau yna ond yn para rhyw bump eiliad," dywedodd.

"Wedyn mis yn ddiweddarach roeddwn i wedi dechrau cael y teimlad bod fy mhen yn cael ei wasgu a byddai hwnna ond yn para am ryw dair eiliad a wedyn yn mynd ond nes i feddwl, dyw rhywbeth ddim cweit yn iawn fan hyn.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Wyn yn wyneb cyfarwydd i wylwyr rhaglenni Heno a Prynhawn Da

"Mae yna dipyn o driniaethau ar gyfer y math o MS sydd gyda fi, diolch byth. Pan ges i'r diagnosis ffurfiol, dywedodd y doctor bod yna bump [o driniaethau] roedden nhw'n fodlon cynnig i fi.

"Es i am yr un mwyaf hegar roedden nhw'n gallu cynnig i rywun sydd a'r math yma o MS ar y pryd.

"Roedd hwnna'n golygu wythnos yn yr ysbyty i fi yn 2021 a tridiau y llynedd i gael yr infusion, a dyna fe."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyd-symudiad cleifion yn cael ei brofi yn ystod arbrawf rhaglen Octopus, drwy eu hamseru i dynnu ac ail-osod pegiau o fwrdd arbennig

Mae mwyafrif y bobl sydd â MS - 85% - yn dioddef ymosodiadau ar brif system nerfol y corff sydd ond yn para am gyfnodau byr nes bod y corff yn adfer ac mae modd byw bywyd arferol.

Dyna yw profiad Dafydd Wyn, ac ar hyn o bryd mae yna o leiaf 15 o driniaethau gwahanol i drin y math yma o MS.

Mae treialon Octopus yn canolbwyntio ar ddatblygu triniaethau i bobl sydd â sglerosis ymledol cynradd ac eilradd, sef math o MS lle mae'r corff yn dirywio dros amser ac yn achosi anabledd.

Prin iawn yw'r triniaethau effeithiol ar gyfer y math yma o MS ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Lisa Haines yw'r claf cyntaf i wirfoddoli yn y broses yng Nghymru

Mae'r ymchwil i ddarganfod meddyginiaethau ar gyfer sglerosis ymledol sy'n gwaethygu dros amser yn digwydd ar draws y DU, ond newydd gychwyn mae'r treialon cyntaf yng Nghymru.

Lisa Haines, 55, o Gaerdydd, yw'r cyntaf i wirfoddoli yn y broses. Mae ganddi sglerosis ymledol cynradd ac yn dibynnu ar sgwter neu ffon gerdded er mwyn symud o gwmpas.

Y cyffuriau cyntaf o dan y chwyddwydr yn nhreialon Octopus yw Metformin, sy'n cael ei ddefnyddio i drin diabetes, ac alpha-lpoic-acid (ALA). Hyd yn hyn, mae'r ddau wedi'u profi i allu arafu datblygiad yr afiechyd.

"Does dim llawer ar gyfer MS cynyddol," dywedodd Ms Haines. "Mae fel petaen ni wedi cael ein anghofio felly pan welais i'r treial Octopus, meddyliais 'ie - rhywbeth a allai helpu'."

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r cyffuriau y mae Lisa Haines yn eu cymryd fel rhan o'r arbrawf

'Dim gwella - ond help i gadw safon byw'

Dywedodd Cynthia Butcher, nyrs sy'n rhan o dîm ymchwil MS yn Ysbyty Athrofaol Cymru: "Beth rydyn ni'n gobeithio yw gweld os gallwn ni arafu effeithiau MS a sicrhau bod pobl ddim yn gwaethygu.

"Dyw hyn ddim yn mynd i helpu nhw wella ond helpu nhw i gadw'r safon byw sydd gyda nhw ar hyn o bryd.

"Mae pob person yn wahanol hefyd. Dyna beth sydd yn dda gyda threialon Octopus - mae'n caniatáu pobl i gymryd rhan i fyny at 75 oed yn hytrach na 60.

"A'r gobaith yn y pendraw yw i atal MS yn gyfan gwbl - i stopio pobl rhag datblygu'r afiechyd yn y lle cyntaf."

Disgrifiad o’r llun,

Arafu effeithiau'r cyflwr yw'r nod yn y lle cyntaf, medd y nyrs Cynthia Butcher

Er na fydd darganfyddiadau ymchwil Octopus yn effeithio'n uniongyrchol ar y math o MS sydd gan Dafydd Wyn, fe allai yn y dyfodol pe bai'n datblygu sglerosis ymledol cynradd neu eilradd.

"Dyna'r gobaith sy'n rhoi hyder i filoedd o bobl sydd â'r afiechyd," meddai.

"Uchelgais meddygon dros y byd a chymdeithas MS yw i stopio'r afiechyd. Stop o ran anabledd pellach i bobl a stop hefyd o ran sicrhau nad yw e'n datblygu i fan caled, poenus, tywyll i bobl.

"A nawr mae yna le i ni edrych yn gyffrous i'r dyfodol oherwydd yr ymchwil diweddaraf yma, ac yn enwedig gan fod lot ohono fe'n digwydd yma ar ein stepen drws."