Galw am arwyddion wedi marwolaeth dyn wnaeth achub dau blentyn
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn a aeth i afon i achub dau blentyn wedi ei ganfod ym Mannau Brycheiniog.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Sgwd y Pannwr, Ystradfellte brynhawn ddydd Gwener ar ôl adroddiad bod dyn wedi mynd i drafferth yn y dŵr.
Y gred yw ei fod wedi mynd i'r afon i geisio achub dau blentyn tra'r oedd ar ddiwrnod olaf ei wyliau gyda theulu.
Am tua 19:00 cafwyd hyd i gorff Mohananeethan Muruganantharajah, neu Mohan fel y cafodd ei adnabod, 27 o ardal Abertawe, gyda chamera tanddwr.
Dywedodd un o'i deulu wrth BBC Cymru bod aelod o'r grŵp wedi mynd i drafferth mewn pwll, a bod Mr Muruganantharajah wedi eu hachub cyn cael ei ddal mewn cerrynt.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd modd cyrraedd ei gorff ar y nos Wener, ond bod deifwyr arbenigol wedi llwyddo i'w gyrraedd y bore wedyn.
Mae ei deulu'n cael cefnogaeth arbenigol gan yr heddlu.
'Fel brawd i bawb'
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd ei nith Vaishnavi Senthurkumaran ei fod wedi "hebrwng pawb i'r dŵr un wrth un" fel y bydden nhw'n gallu nofio, gan ychwanegu fod "o leiaf pump yn rhagor o bobl yn y dŵr".
Ar ôl i rai fynd i drafferthion, fe aeth Mohan i'w hachub, cyn mynd yn sownd.
"Ro'n i'n gallu gweld ei ddwylo'n llithro i'r dŵr. Ro'n ni'n meddwl ei fod yn gwneud rhyw fath o dric fel y byddai'n gwneud yn y môr," dywedodd Vaishnavi.
"Roedd rhai doctoriaid yn yr ardal a geisiodd helpu lle y gallen, yna fe ddaeth y parafeyddgon.
"Roedd pobl yn ceisio ein cael ni yn ôl at ein ceir ond roedd yn teimlo'n anghywir i adael oherwydd mae fy ewythr, er mai ef yw'r brawd ieuengaf, bob amser yno i bobl.
"Roedd e'n ifanc ond roedden ni i gyd yn mynd ato i gael cyngor. Roedd e fel brawd i bawb."
Mae teulu Mohan wedi galw am well arwyddion yn yr ardal i dynnu sylw at beryglon posib.
"Roedd arwydd yno ond roedden nhw'n atgoffa pobl yn gyffredinol am beryglon posib.
"Dwi eisiau arwydd yno i atgoffa pobl fod rhai wedi marw, a'ch bod yn rhoi'ch bywyd yn y fantol wrth fynd i'r dŵr."
Dywedodd Vaishnavi ei bod wedi cael syndod o ddeall fod y safle "wedi ei ail-agor ar yr un diwrnod y daeth swyddogion o hyd i gorff [ei hewythr]".
"Pan oedd ei ffrindiau'n gosod blodau yno iddo, roedd pobl yn nofio yn yr un dŵr."