Rhybudd heddlu am ladron yn gosod corachod i dargedu tai

  • Cyhoeddwyd
CorachFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhannu llun o gorach maen nhw'n tybio sydd wedi ei osod gan ladron

Mae rhybudd i bobl fod ar eu gwyliadwraeth am ffigurynnau o "gorachod Nadoligaidd" yn eu gerddi.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru fod y corachod yn cael eu gosod gan ladron yn ardal Brychdyn, Sir y Fflint.

Mae lladron yn rhoi corachod mewn gerddi er mwyn gweld a yw'r perchennog yn eu symud oddi yno.

Os nad ydynt yn cael eu gwaredu o'r ardd, gall hynny fod yn arwydd fod y tŷ yn wag ac yn darged hawdd i ladron dorri i mewn iddo.

"Rydym yn rhybuddio pobl i fod ar eu gwyliadwraeth," meddai llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd.

"Gwnewch yn siwr fod eich cartrefi wedi eu diogelu."

Pynciau cysylltiedig