Fersiwn newydd Byd o Heddwch i ysbrydoli tîm rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Shân Cothi a Trystan Llŷr GriffithsFfynhonnell y llun, Coco & Cwtsh
Disgrifiad o’r llun,

Shân Cothi a Trystan Llŷr Griffiths sydd wedi recordio'r fersiwn newydd

Ysbrydoli a rhoi hwb i dîm rygbi Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc ydy un o obeithion rhyddhau fersiwn newydd o Byd o Heddwch.

Gyda threfniant newydd Rhys Taylor o don adnabyddus Gustav Holst, World in Union, yn Gymraeg, Shân Cothi a Trystan Llŷr Griffiths sy'n codi'r to.

Ar eiriau Penri Jones, mae Rhys yn dweud bod 'na syrpreis i'r gynulleidfa gyda'r ddau ganwr yn gobeithio y bydd yn hwb i'r tîm cenedlaethol.

Fe fydd y bencampwriaeth yn cychwyn yn Ffrainc ddydd Gwener gyda Chymru yn wynebu Fiji yn y gêm gyntaf nos Sul.

'Sgidie i'w llenwi'

Gydag artistiaid yn cynnwys y Fonesig Kiri Te Kanawa, Syr Bryn Terfel a'r Fonesig Shirley Bassey heb sôn am nifer o gorau, wedi recordio'r gân, tro Shân Cothi a Trystan Llŷr Griffiths ydy hi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2023.

Ffynhonnell y llun, Coco & Cwtsh
Disgrifiad o’r llun,

Fel "bachan rygbi", dywedodd Trystan Llŷr Griffiths ei fod yn awyddus bod yn rhan o'r prosiect

Yn wreiddiol ar gyfer Côr Godre'r Aran yr ysgrifennodd Penri Jones y geiriau Cymraeg ac yn ôl Rhys Taylor, sy'n gyfrifol am y trefniant newydd, mae'n blethiad difyr o bop, roc ac opera.

"Pan ma' fe'n rywbeth mor adnabyddus, chi mo'yn rhoi eich stamp eich hun ond hefyd yn ystyried pwy chi'n gweithio 'da.

"O'n i'n gwybod mai Trystan a Shân oedd am fod 'na a o'n i mo'yn aros yn eu ballpark nhw fel dywed y Sais o ran steil eu lleisiau nhw.

"Ma' nhw yn sgidie mawr i lenwi, ond falle bydd bobl yn dweud 'chi'n cofio fersiwn Shân a Trystan' rhyw ddydd."

Ychwanegodd mai'r iaith sy'n gwneud y fersiwn newydd yn arbennig: "Ma' 'na rywbeth mor farddonol byti'r iaith Gymraeg - mae ei ganu yn y Gymraeg yn gynnes iawn ac mae cerddoriaeth Holst mor gynnes yn y lle cynta, a gyda'r Gymraeg yn gyfuniad perffaith."

Ffynhonnell y llun, Coco & Cwtsh
Disgrifiad o’r llun,

Branwen Munn wnaeth gynhyrchu'r fersiwn newydd, a chwarae'r offerynnau

Label Coco & Cwtsh sy'n cyhoeddi'r anthem, gan recordio'r gan yn ei stiwdio newydd ym Mynyddcerrig, Sir Gaerfyrddin.

Branwen Munn sydd wedi cynhyrchu'r gan, ac sy'n chwarae'r holl offerynnau.

Fel cefnogwr rygbi brwd dywedodd Trystan ei fod wrth ei fodd gyda'r prosiect.

"Dwi'n fachan rygbi, dal i botsian efo Clwb Rygbi Crymych nawr, ond gobeithio, gan ei bod yn gan ysbrydoledig, yn rhoi rhyw fath o wmff pan glyw di hi, so os ma'r bois yn clywed hi a joio hi a gobeithio nawn nhw chwarae hi'n y stafell newid, ond gewn ni weld."

"Dwi 'di gweithio da Rhys Taylor lot yn ddiweddar mewn gigs a gw'bod bod 'da fe ffordd arbennig o droi caneuon a rhoi ei stamp arno, a ni'n ffodus iawn bod o 'di gallu neud trefniant sbesial, bach o roc, roc opera a dylanwad Queen.

"A 'wen i'n 'itha excited amdano."

Ffynhonnell y llun, Coco & Cwtsh

Cafodd fersiwn cyntaf o World in Union ei recordio gan Kiri Te Kanawa ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn 1991, ac ers hynny wedi cael ei recordio sawl tro gan wahanol artistiaid.

Roedd Shân Cothi yn falch iawn o gael y gwahoddiad i ymuno a chyd-berfformio, gan ddweud iddo fod yn brofiad gwych fydd yn aros yn ei chof.

"Fi 'di tyfu lan yn clywed Kiri Te Kawana yn ei chanu ac yn dwli arni," eglurodd.

"Ma' 'da fi bach o hanes efo hi hefyd ac mi ganes gyda hi lot pan oedd Dennis Gethin yn llywydd URC o gael gwahoddiadau i ganu cyn gemau cenedlaethol a wastad 'di dwli ar y gân."

Dywedodd bod "dim angen gofyn dwywaith" pan gafodd y cynnig.

"Mae'n fraint bo Trystan di gofyn i mi asio efo fo a gobeithio rhoi hwb i'r bois ifanc ma sy'n mynd amdani."